Toglo gwelededd dewislen symudol

Noson lwyddiannus o hud cerddorol a thân gwyllt gwefreiddiol

Cyfareddwyd miloedd o bobl yn Arddangosfa Tân Gwyllt flynyddol Abertawe neithiwr. Dechreuodd y digwyddiad 'Sioeau Cerdd Gyda'r Hwyr', a drefnwyd gan Gyngor Abertawe, yn San Helen gyda pherfformiadau byw gan Fand Pres Pen-clawdd,Clever Cubs, Abbey Players, Cymdeithas Operatig Amatur y Cocyd, Scarlet Musical Theatre Productions, a Mellin Theatre Arts, a ddifyrrodd y dorf gydag alawon o sioeau cerdd poblogaidd.

Swansea Fireworks Display 2023

Dilynwyd hyn gan arddangosfa tân gwyllt drawiadol a barodd 20 munud a oedd yn cyd-fynd â rhai o'r caneuon mwyaf poblogaidd o fyd y sioeau cerdd gan gynnwys Matilda, The Lion King a Phantom of the Opera, cyn uchafbwynt a oedd yn herio disgyrchiant o'r sioe gerdd Wicked, a oedd yn hynod boblogaidd.

Nid rhyfeddodau'r awyr oedd yr unig elfen gyffrous o'r digwyddiad difyr, roedd cymeriadau o sioeau cerdd yn rhyngweithio â'r dorf, fflamau'n tasgu i fyny i'r awyr, perfformiadau wedi'u goleuo ac ysgrifennu â thân.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth,

"Roedd yn ddigwyddiad tân gwyllt trefnedig gwych arall yn y ddinas lle daeth miloedd o bobl ynghyd i fwynhau perfformiadau gan grwpiau lleol ac a ddiweddodd mewn arddangosfa tân gwyllt drawiadol, yr oedd pobl wedi'i phrofi mewn ffordd ddiogel.

"Diolch i bawb a ddaeth i'r arddangosfa tân gwyllt a'r rheini a weithiodd mor galed i'w gwneud yn noson i'w chofio.

"Edrychwn ymlaen yn awr at Orymdaith y Nadolig a gaiff ei chynnal yng nghanol y ddinas cyn bo hir."

Croesewir Gorymdaith y Nadolig yn ôl i ganol y ddinas ar 17 Tachwedd am 5pm lle bydd digonedd o hwyl yr ŵyl i'w chael. Dewch i ddathlu dechrau tymor yr ŵyl gyda cherbydau sioe lliwgar, goleuadau disglair ac adloniant llon i bob oed. I gael rhagor o wybodaeth a manylion digwyddiadau, gweler croesobaeabertawe.com

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Tachwedd 2024