Toglo gwelededd dewislen symudol

Popeth y mae angen i chi ei wybod am Arddangosfa Tân Gwyllt Abertawe: Sioeau Cerdd Gyda'r Hwyr

Cyrhaeddwch yn gynnar i fwynhau'r holl adloniant

fireworks 2023 preview

Bydd y gatiau'n agor am 5pm, a bydd yr adloniant yn dechrau'n fuan ar ôl hynny.

Yn ogystal â'r prif arddangosfa tân gwyllt, bydd llawer o adloniant ar gael.  Bydd perfformiadau gan Fand Pres Pen-clawdd, Clever Cubs, Abbey Players, Cymdeithas Operatig Amatur y Cocyd, Melyncrythan Musical Theatre Company a Mellin Theatre Arts ar y llwyfan adloniant.

Ynghyd â hyn bydd cymeriadau o sioeau cerdd yn cerdded drwy'r torfeydd, gan gynnwys Elphaba a Glinda o Wicked, The Phantom of the Opera, Olaf ac Anna o Frozen, a llawer mwy o'ch hoff sioeau cerdd.

Paratowch

I sicrhau eich bod chi'n cael lle yn y digwyddiad, ac er mwyn cael mynediad haws, anogir i chi archebu'ch tocynnau ymlaen llaw.  Bydd 3 gât ar gyfer y rheini sy'n archebu tocynnau ymlaen llaw, felly gallwch fynd i mewn i'r maes yn gyflymach er mwyn dechrau mwynhau'r digwyddiad. Gallwch brynu tocynnau ar y diwrnod ond mae'n debygol y bydd ciwiau hir ar gyfer y gât hon ac felly bydd oedi cyn i chi fynd i mewn i'r digwyddiad.

Gallwch brynu tocynnau yn www.croesobaeabertawe.com/events/arddangosfa-tan-gwyllt-bae-abertawe/ ac mae prisiau'n dechrau o £2 yn unig.

Gan mai digwyddiad awyr agored yw hwn, ac yn dibynnu ar y tywydd, gall y tir fynd yn fwdlyd, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad ac esgidiau addas a chynnes.

Er budd diogelwch y cyhoedd, ni chaniateir unrhyw dân gwyllt na ffyn gwreichion ar y maes.

Sylwer y bydd y digwyddiad hwn yn swnllyd iawn ac ni chaniateir cŵn ar faes San Helen (heblaw am gŵn cymorth).

Mwynhau bwyd a diod

Gydag amrywiaeth eang o fwyd a diod ar gael, beth am fwynhau rhywbeth blasus wrth wylio'r adloniant?  Bydd y tryciau bwyd yn gwerthu byrgers stryd, pizza o ffwrn tân coed, cŵn poeth a sglodion â thopins, malws melys wedi'u tostio a mwy. Mae'r tryciau bwyd yn derbyn arian parod a cherdyn.

Edrychwch i fyny ac i lawr

Yn ogystal â'r tân gwyllt yn yr awyr, bydd llawer o adloniant gwych i'w weld ar y maes hefyd fel effeithiau fflam a llunio patrymau â thân.

Mae'r arddangosfa tân gwyllt wedi'i choreograffu i gyd-fynd â rhestr chwarae o ganeuon sioeau cerdd, a fydd yn ategu ei gilydd ac yn darparu adloniant gweledol a chlywedol i bawb ar y maes.

Parcio

Bydd holl feysydd parcio'r digwyddiad ar agor o 4pm. Mae'r meysydd parcio'n gweithredu ar sail talu wrth gyrraedd yn unig, felly nid oes modd cadw lle ymlaen llaw.

Sylwer mai nifer cyfyngedig o leoedd parcio hygyrch sydd ar gael ym mhob maes parcio, a'r cyntaf i'r felin gaiff y rhain.

Codir ffi o £5 i barcio yn y meysydd parcio canlynol:

•         Maes parcio'r Rec (côd post - SA2 0AU)

•         Maes Parcio Gorllewin y Ganolfan Ddinesig (côd post - SA1 3SN)

•         Maes Parcio Neuadd y Ddinas (côd post - SA1 4PE)

•         Maes Parcio'r Cae Lacrosse (côd post - SA2 0AU)

Bydd Swyddogion Gorfodi Traffig yn patrolio'r ardal felly sicrhewch eich bod yn parcio'n gyfreithiol er mwyn atal dirwy rhag difetha'ch noson.

Cynlluniwch eich taith

I sicrhau diogelwch y rheini sy'n mynd i'r digwyddiad, bydd nifer o ffyrdd ar gau:

Mumbles Road, rhwng Brynmill Lane a Guildhall Road South (i'r dwyrain a'r gorllewin) am 30 munud rhwng 7.15pm a 7.45pm er mwyn i ymwelwyr adael.

Sylwer y bydd hyn yn effeithio ar bobl sy'n gadael meysydd parcio'r Rec a'r cae lacrosse ar ddiwedd y noson.   Ni fydd cerbydau'n gallu gadael y meysydd parcio hyn tan y bydd yn ddiogel i ailagor Mumbles Road.

Cau ffyrdd:16:00 - 21:00:

Gorse Lane - bydd y llwybr amgen drwy Mumbles Road, Guildhall Road South, Francis Street a King Edward Road, a bydd y llwybr hwn yn gweithredu i'r gwrthwyneb hefyd.

Bryn Road rhwng Osborne Terrace a King Edward Road  - bydd y llwybr amgen drwy Osborne Terrace, Brynmill Avenue, St Albans Road, Finsbury Terrace, Marlborough Road a Rhyddings Park Road, a bydd y llwybr yn gweithredu i'r gwrthwyneb hefyd.

King Edward Road rhwng Rhyddings Park Road a Gorse Lane.

Finsbury Terrace rhwng Bryn Road a Brynmill Crescent.

Gwaherddir mynediad i Brynmill Crescent, Pantycelyn Road, Taliesyn Road a Ceiriog Road, ac eithrio ar gyfer y gwasanaethau brys a phreswylwyr lleol.

Mumbles Road, rhwng Brynmill Lane a Guildhall Road South  

Cyfyngiad Dim Parcio a Gorchymyn Halio Ceir Ymaith.

Oystermouth Road - rhwng St Helens Road ac Argyle Street, gwahardd aros a llwytho dros dro rhwng 5.30pm a 8.30pm.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Tachwedd 2024