Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosfa tân gwyllt Abertawe'n dychwelyd i San Helen

Disgwylir i filoedd o breswylwyr, teuluoedd a myfyrwyr fynd i Faes San Helen i wylio arddangosfa tân gwyllt nodedig ar thema 'Sioeau Cerdd gyda'r Hwyr' nos Fawrth, 5 Tachwedd.

fireworks 2023 preview

Bydd Cyngor Abertawe'n croesawu ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol yn ôl ym mis Tachwedd, gyda thocynnau fforddiadwy o £2 os byddwch yn eu prynu ymlaen llaw - sef £10 yn unig am deulu o bump. Mae hynny'n rhatach ac yn fwy diogel na chynnal eich arddangosfa eich hun!

Bydd y gatiau'n agor am 5pm a bydd yr adloniant cyn y sioe'n dechrau am 5.30pm. Bydd y brif arddangosfa tân gwyllt yn dechrau am 7pm. Mae tocynnau ymlaen llaw bellach ar gael i'w prynu ar-lein.

Bydd y digwyddiad eleni'n cynnwys perfformiadau o sioeau megis Beauty and the Beast, SIX a The Greatest Showman. Ceir cyfle hefyd i gwrdd â'ch hoff gymeriadau o sioeau fel Wicked(Elphaba a Glinda), The Phantom of the Opera a The Little Mermaid (Ursula ac Ariel). Yn ogystal, bydd mwy o dryciau bwyd eleni i gynnig digon o ddewis o ran bwyd a diodydd.

Bydd sioe oleuedig anhygoel yn para am 25 munud i baratoi'r dorf am y prif ddigwyddiad.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Rydym yn darparu digwyddiadau gwych i bobl Abertawe eu mwynhau - a dyma ddigwyddiad allweddol yn ein rhaglen flynyddol.

"Rydym yn cydnabod y pwysau parhaus ar deuluoedd, felly bydd prisiau'r tocynnau'n aros yr un peth unwaith eto.

"Er enghraifft, pris tocyn i deulu o bump yw £10 yn unig, sy'n gyfwerth â £2 yr un, gan gynnig gwerth da iawn am arian ar gyfer noson ddifyr a diogel sy'n addas i'r teulu cyfan.

"Bydd prisiau parcio fesul cerbyd yn aros yr un peth ag yn y gorffennol hefyd, sef £5."

Ychwanegodd, "Mae'r arddangosfa tân gwyllt flynyddol yn rhan o ymrwymiad y cyngor i ddarparu atyniadau a digwyddiadau am ddim neu rad sy'n addas i deuluoedd yn ein cymunedau, fel Sioe Awyr Cymru a Gorymdaith y Nadolig, gan eu helpu i ymdopi â'r argyfwng costau byw."

Dylai pobl sy'n mynd i'r sioe gynllunio ymlaen llaw a chyrraedd yn gynnar. Mae'r digwyddiad bob amser yn brysur iawn ac ni fyddem eisiau i unrhyw un golli eiliad o'r cyffro. Er mwyn sicrhau bod pawb yn yr hwyliau cywir, bydd llwyfan adloniant, stondinau bwyd, cerddoriaeth a llawer mwy cyn yr arddangosfa tân gwyllt.

Mae tocynnau ar gael bellach. Er mwyn manteisio ar brisiau ymlaen llaw, archebwch eich tocynnau nawr drwy fynd i croesobaeabertawe.com/tan-gwyllt

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2024