Pum cymuned ar fin gweld eu hardaloedd chwarae'n cael eu hailwampio
Bydd 5 cymuned yn Abertawe'n cael ardaloedd chwarae newydd neu adnewyddedig fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2m gan Gyngor Abertawe.
Eleni bydd pob ward yn Abertawe'n derbyn o leiaf £36,000 i'w fuddsoddi mewn cyfarpar chwarae newydd neu i wneud atgyweiriadau i gyfleusterau presennol.
Cytunwyd ar waith uwchraddio mewn 5 cymuned sef Mayhill, Treforys, Pennard, Cwmbwrla a fflatiau Rheidiol ym Mynydd-bach. Mae gwaith uwchraddio a gosod cyfleusterau newydd yn cymryd tua chwe wythnos a chaiff ei wneud gan amrywiaeth o gontractwyr ar ran y cyngor.
Mae'r gwaith yn rhan o addewid gan Gyngor Abertawe i greu neu wella nifer o ardaloedd chwarae yn ein cymunedau, wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig.
Heblaw am y pum prosiect y disgwylir iddynt ddechrau cyn bo hir, disgwylir i wyth prosiect arall gael eu hagor yn swyddogol dros yr wythnosau nesaf gan gynnwys yn Nhre-gŵyr, Weig Fawr, Dôl Dynfant, Parc Polly a'r lle chwarae yn Llyn Cychod Singleton.
Mae'r ddinas yn gartref i 86 o leoedd chwarae lle gall plant chwarae'n ddiogel a chael hwyl. Mae angen gwella rhai ohonynt gryn dipyn ac mae eraill wedi cael eu hadeiladu'n ddiweddar fel rhan o ddatblygiadau newydd fel adeiladau ysgol newydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd