Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad cosb benodedig i'r rheini sy'n tipio'n anghyfreithlon

Gallai deiliaid tai yn Abertawe wynebu hysbysiad cosb benodedig o £300 am drefnu i rywun fynd â'u gwastraff i ffwrdd, sydd yna'n ei dipio'n anghyfreithlon.

View of Swansea

Mae'r cynnig yn cael ei ystyried fel rhan o ymdrechion i atal pobl rhag meddwl ei bod yn dderbyniol trefnu i'w gwastraff gael ei gasglu gan rywun a allai ddifrodi cefn gwlad a chymunedau drwy dipio sbwriel yn anghyfreithlon yn hytrach na defnyddio safle gwastraff trwyddedig.

Gall deiliaid tai yn Abertawe fynd â'u gwastraff i ganolfannau ailgylchu'r cyngor yn y ddinas am ddim.

Mae nifer o gynghorau ledled Cymru eisoes wedi bod yn cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig 'dyletswydd gofal' i ddeiliaid tai ar ôl mabwysiadu cyfraith tipio anghyfreithlon newydd a basiwyd gan Lywodraeth Cymru. Nawr gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe wneud yr un peth.

Daw hyn yn dilyn rheolau a fabwysiadwyd gan y cyngor nifer o flynyddoedd yn ôl sy'n caniatáu i'r cyngor roi hysbysiadau cosb benodedig i fusnesau sy'n torri'u dyletswydd gofal i gael gwared ar gwastraff. Y llynedd cyhoeddwyd 47 o hysbysiadau cosb benodedig, y trydydd nifer uchaf ymysg cynghorau Cymru.

Os bydd y Cabinet yn cytuno ar y rheolau newydd ar 19 Ionawr, byddant yn caniatáu i dîm Gorfodi Gwastraff y cyngor roi hysbysiadau cosb benodedig tebyg i ddeiliaid tai sy'n anwybyddu eu 'dyletswydd gofal' drwy drefnu i rywun heb drwydded cludydd gwastraff gael gwared ar eu gwastraff.

Hyd yn hyn, yr unig ffordd i ddelio â deiliaid tai nad ydynt wedi bodloni'u dyletswydd gofal i wirio bod gan y sawl sy'n gwaredu'r gwastraff drwydded gywir yw drwy eu herlyn drwy'r llysoedd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gwared ar wastraff yn gyfrifol yma:

https://naturalresources.wales/checkWaste?lang=cy

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/waste-carriers-brokers-and-dealers-public-register/?lang=cy

 

 

 

Close Dewis iaith