Maethu Cymru Abertawe'n croesawu cynllun i ddiddymu elw o faes gofal plant
Ar y Dydd Gofal hwn (21 Chwefror), mae Maethu Cymru Abertawe'n ymuno â chymuned faethu Cymru i amlygu manteision gofal awdurdod lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol arloesol Llywodraeth Cymru ddechrau'r broses o ddiddymu elw o'r system gofal plant.


Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddiddymu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.
Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, dan arweiniad pobl sydd wedi cael profiad o ofal a gofalwyr maeth awdurdod lleol, yw dangos sut bydd y polisi'n helpu pobl ifanc sy'n derbyn gofal i gadw mewn cysylltiad â'u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a'u hysgol.
Y llynedd, gwnaeth 85 y cant o bobl ifanc gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol aros yn eu hardal.
Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc a oedd yn derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol a wnaeth aros yn lleol, a symudwyd saith y cant y tu allan i Gymru'n llwyr.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Gofal, Louise Gibbard, "Mae polisi Llywodraeth Cymru i ddileu elw yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirbarhaol i ofal plant a phobl ifanc yng Nghymru. Bydd yn fuddiol i bobl ifanc sy'n derbyn gofal heddiw ac yn y dyfodol.
"Mae bod yn ofalwr maeth i'ch awdurdod lleol yn cynnig llawer o fanteision - o gefnogaeth a hyfforddiant helaeth, i'r ffaith bod y tîm maethu a'r gweithwyr cymdeithasol i gyd yn gweithio yn yr un adeilad. Ond yn bwysicaf oll, mae'n rhoi'r opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol. Mae hyn yn eu galluogi i aros yn agos at eu teulu, eu ffrindiau a'u cymuned leol.
"Mae cymunedau lleol yn allweddol wrth gynyddu ein carfan o ofalwyr maeth awdurdod lleol, p'un a ydynt yn bobl sydd heb faethu o'r blaen, neu'n ofalwyr maeth asiantaethau maethu annibynnol sy'n trosglwyddo. Os oes gennych ddiddordeb mewn maethu neu drosglwyddo, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Abertawe am sgwrs anffurfiol."
Roedd Paul and Sharron Hammond yn maethu'n wreiddiol gydag asiantaeth faethu annibynnol cyn iddynt benderfynu trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe ym mis Mawrth 2014.
Meddai Sharron, "Rydym wedi mwynhau'r hyfforddiant a'r gefnogaeth rydym wedi'u cael. Rydym wedi gofalu am blant iau ac arddegwyr ac rydym nawr yn canolbwyntio ar ddarparu lleoliadau i rieni a phlant. Rydym yn credu bod cadw plant yn eu hardal leol yn bwysig iawn."
Mae Wendy Jenkins yn fam-gu sydd wedi bod yn ofalwr maeth ers pum mlynedd hefyd. Dywedodd fod trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe wedi ei galluogi i gefnogi llawer o blant gwych sydd wedi dod â llawenydd mawr i'w chartref.
Ychwanegodd, "Manteision bod gyda Maethu Cymru Abertawe yw bod y plant yn lleol, bod llawer o gyfleoedd hyfforddi, bod y grwpiau cymorth yn lleol a'n bod yn cael gwybodaeth reolaidd a chyfredol."
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: www.abertawe.maethucymru.llyw.cymru