Trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe yw un o'r pethau gorau rwy wedi'u gwneud
Dywed mam-gu sydd hefyd wedi bod yn ofalwr maeth am y pum mlynedd ddiwethaf bod ymuno â Maethu Cymru Abertawe wedi ei galluogi i gefnogi llawer o blant gwych sydd wedi dod â llawenydd i'w chartref.
Ers y gall Wendy Jenkins gofio roedd erioed am fod yn ofalwr maeth, fodd bynnag, roedd amgylchiadau bob amser yn ei hatal nes i ffrind a oedd yn gweithio mewn tîm maethu siarad â Wendy am gynnig seibiant.
I ddechrau, ymunodd Wendy ag asiantaeth faethu annibynnol, gan gynnig seibiant i bobl ifanc yn bennaf sydd dros 11 oed.
Meddai: "Oherwydd fy mod i'n dal i weithio'n amser llawn amser ac ymwneud llawer â'm dau ŵyr ifanc, mae cynnig seibiant rheolaidd yn gweddu i'm hanghenion ac mae'n golygu y galla i gefnogi gofalwyr maeth eraill gyda gwasanaeth sydd ei angen yn fawr.
"Rwy wrth fy modd gyda'r bobl ifanc hyn yn dod draw i aros. Yn un o'm rolau, gweithies i gyda'r rhai sy'n gadael gofal ifanc felly rwy'n ymwybodol o sut maen nhw'n teimlo am fod mewn gofal a pha mor bwysig yw cael y gofalwr maeth cywir a fydd yn cymryd yr amser i wrando, cynnig dod o hyd i atebion, a rhoi cyngor am eu pryderon."
Arhosodd Wendy gyda'i hasiantaeth am bedair blynedd ond penderfynodd drosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe llynedd.
Ychwanegodd: "Fy rhesymau gwreiddiol dros symud i Faethu Cymru Abertawe oedd yn bennaf oherwydd bod y person ifanc a ges i ar seibiant yn cael ei leoli gyda Maethu Cymru Abertawe. Dwy flynedd wedyn, a llawer o bitsa a sgyrsiau hir, mae'n dal i ddod ata i ar seibiant ac mae e'n rhan fawr o'n teulu ni."
Mae llawer o ofalwyr maeth asiantaeth yn poeni y bydd trosglwyddo i Faethu Cymru Abertawe - gwasanaeth maethu'r Cyngor - yn cymryd gormod o amser ac y byddan nhw'n derbyn taliadau llai, nad yw'n wir.
Meddai Wendy: "Y manteision o fod gyda Maethu Cymru Abertawe yw'r plant yn lleol, mae llawer o gyfleoedd hyfforddi, mae'r grwpiau cymorth yn lleol, ac rydyn ni'n cael gwybodaeth reolaidd a chyfredol.
"Rwy wedi cwrdd â chymaint o blant gwych gyda chymeriadau gwych ac maen nhw wedi dod â chymaint o lawenydd i mewn i'm cartref i. Os oedd angen cymorth arna i, rydw i bob amser wedi gallu cysylltu â rhywun yn yr adran i gael cyngor a gwybodaeth. Rwy hefyd wedi bod yn ffodus i gael gweithiwr cymdeithasol goruchwylio gwych, sydd wedi rhoi'r lefel gywir o gymorth oedd ei hangen arna i"
Ac er y gall maethu fod yn heriol ar adegau, bydd gofalwyr maeth bob amser yn dweud bod y budd yn gorbwyso'r heriau.
Meddai Wendy: "Galla i ddweud yn onest o waelod calon mai maethu yw un o'r swyddi anoddaf i mi eu gwneud erioed, ond bod y budd yn gwbl anhygoel. Dwedais wrth ffrind a oedd yn ystyried dod yn ofalwr maeth, am beidio â meddwl am y peth, ond am ei wneud! Cynigiais i rif Maethu Cymru Abertawe iddyn nhw yn y fan a'r lle."
Mae Maethu Cymru Abertawe yn chwilio am bobl i fod yn rhan o gymuned sy'n annog plant mewn gofal maeth i gael dyheadau uchel, gan eu sicrhau y gallan nhw gyflawni unrhyw beth y maen nhw am ei wneud trwy eu cymorth a'u hymrwymiad.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Gofal, Louise Gibbard: "Mae cymunedau lleol yn allweddol wrth gynyddu carfan gofalwyr maeth ein hawdurdod lleol, boed y rhain yn bobl sy'n dod ymlaen sydd heb faethu o'r blaen, neu ofalwyr maeth asiantaeth faethu annibynnol yn cymryd y cam i drosglwyddo. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu neu drosglwyddo, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Abertawe i gael sgwrs anffurfiol."
Os hoffech chi ddysgu rhagor am faethu, yn ogystal â sgwrsio â gofalwyr maeth, mae Maethu Cymru Abertawe yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ddydd Mercher 18 Medi, 6-8pm yn yr Ystafell Gymunedol yn Tesco Llansamlet.
Am ragor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i:www.swansea.fosterwales.gov.wales