Toglo gwelededd dewislen symudol

Deiliaid tai yn wynebu cosbau penodedig am ganiatáu i eraill gael gwared â'u gwastraff

Bydd deiliaid tai yn Abertawe'n wynebu hysbysiad cosb benodedig o £300 am drefnu i rywun fynd â'u gwastraff, sydd wedyn yn cael gwared ag e'n anghyfreithlon.

flytipped waste stock

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno ar y cynnig fel rhan o ymdrechion i atal pobl rhag meddwl ei fod yn iawn trefnu i'w gwastraff gael ei gasglu gan rhywun a allai anharddu cefn gwlad a chymunedau drwy daflu'r sbwriel yn hytrach na mynd ag ef i safle gwastraff trwyddedig.

Bydd y rheolau newydd yn caniatáu i dîm Gorfodi Gwastraff y cyngor roi hysbysiadau cosb benodedig i ddeiliaid tai sy'n anwybyddu eu 'dyletswydd gofal' drwy drefnu i rywun heb drwydded cludo gwastraff gael gwared ar eu gwastraff.

Hyd yn awr, yr unig ffordd yr aethpwyd i'r afael â deiliaid tai a oedd wedi methu yn eu dyletswydd gofal i wirio bod gan y person oedd yn cael gwared ar eu gwastraff drwydded gywir fu drwy eu herlyn drwy'r llysoedd.

Gall deiliaid tai yn Abertawe fynd â'u gwastraff i ganolfannau ailgylchu'r cyngor yn y ddinas am ddim.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Ers nifer o flynyddoedd, rydym wedi gallu rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig i ddeiliaid tai sy'n taflu eu sbwriel eu hunain yn anghyfreithlon. Ein neges i ddeiliad tai yw bod yn rhaid i chi wirio fod gan y cwmni rydych yn ei logi drwydded gwaredu, neu fel arall, rydych chi'r un mor atebol â nhw am Hysbysiad Cosb Benodedig os ydynt yn tipio'ch gwastraff yn anghyfreithlon."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gwared ar eich gwastraff yn briodol yma:

http://naturalresources.wales/checkWaste?lang=cy

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/waste-carriers-brokers-and-dealers-public-register/?lang=cy

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023