Toglo gwelededd dewislen symudol

Bysus am ddim yn parhau drwy gydol cyfnod y Nadolig

Bydd cynnig bysus am ddim Cyngor Abertawe yn parhau drwy gydol cyfnod y Nadolig (18 - 24 a 27 - 31 Rhagfyr) yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig.

Swansea Bus Station

Drwy gydol mis Rhagfyr, mae'r cyhoedd wedi gallu manteisio ar wasanaethau bysus am ddim bob penwythnos ers diwedd mis Tachwedd.

Mae cannoedd o deithwyr wedi gallu arbed eu harian haeddiannol i'w ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau Nadoligaidd eraill drwy deithio ar fysus am ddim i gyrraedd mannau yn y ddinas, gan gynnwys siopau canol y ddinas, Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ac i deithio yn ôl ac ymlaen i Orymdaith y Nadolig a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Mae teithwyr a phreswylwyr sy'n bwriadu mynd i siopau neu fusnesau lletygarwch yn cael eu hannog i barhau i ddilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo mygydau pan fyddant ar fws.

Nawr, yn yr ymdrech olaf cyn y diwrnod mawr, mae'r cyngor yn ariannu'r cynnig bysus am ddim o ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr hyd at noswyl Nadolig, gan roi cyfle i'r cyhoedd fynd i'r ddinas i wneud ychydig o siopa munud olaf ac arbed eu harian er mwyn prynu anrhegion neu fwynhau pryd Nadoligaidd mewn bwyty.

Bydd y gwasanaeth am ddim hefyd yn parhau ar ôl dydd Nadolig gyda chyfleoedd i deithio am ddim o 27 i 31 Rhagfyr.

 Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym wedi gallu darparu cyfle i bawb yn Abertawe deithio ar fysus am ddim ar adegau pwysig o'r flwyddyn yn ystod 2021, gan gynnwys gwyliau'r haf.

"Mae'r cynnig am ddim cyfredol hwn yn dod ar adeg sy'n wirioneddol bwysig i deuluoedd o ran arian. Rydym am gefnogi teuluoedd a'u helpu i gael amser gwych dros y Nadolig, yn y gobaith o leihau'r gost drwy ddarparu teithiau am ddim, naill ai i wneud ychydig o siopa, ymweld â ffrindiau neu deulu neu fynd allan am bryd gyda'r teulu.

"Mae'n amlwg bod y sefyllfa gyfredol gyda'r pandemig yn golygu bod pawb yn gorfod bod yn gyfrifol o hyd wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu ymweld â theuluoedd, felly byddwch yn ofalus, gwisgwch fwgwd ar y bws a rhowch sylw i'r cyngor iechyd newidiol wrth i ni nesáu at y Nadolig a'r flwyddyn newydd."

 

Close Dewis iaith