Bysus am ddim yn ôl ar gyfer yr haf
Mae cynnig bysus am ddim unigryw Cyngor Abertawe yn ôl ar gyfer yr haf o ddydd Sadwrn yma.

Mae'r fenter yn rhoi cyfle i'r cyhoedd deithio am ddim dros benwythnosau hir ar yr holl wasanaethau bysus sy'n gweithredu o fewn terfynau'r ddinas, gan gynnig ffordd wych i deuluoedd fynd o gwmpas yr ardal.
Bydd cyfanswm o 15 niwrnod o deithio am ddim ar gael rhwng 19 Gorffennaf a 31 Awst a gall pawb elwa o'r cynnig ar yr amod bod eu taith yn dechrau ac yn dod i ben yn Abertawe.
Mae'r fenter, a arweinir gan y cyngor, bellach yn ei 5ed flwyddyn o weithredu ar ôl ei lansio yn ystod gwyliau haf 2021, ac ers hynny mae pobl sy'n defnyddio bysus i ymweld â thirnodau lleol, siopau a thraethau ar hyd yr arfordir neu i ymweld â theulu a ffrindiau wedi elwa o dros filiwn o deithiau am ddim.
Meddai Rob Stewart, "Mae'r cynnig bysus am ddim yn Abertawe wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Er bod y cynnig yn darparu cyfleoedd arbed arian gwych i deuluoedd sy'n defnyddio bysus yn rheolaidd, rydym yn falch iawn o weld bod y cynnig am ddim hefyd yn helpu i ysgogi pobl eraill i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn lle'r car, sy'n golygu eu bod yn arbed arian ar danwydd.
"Mae un daith yn unig i deulu o bedwar yn helpu i arbed tua £20 bob tro. Mae hyn yn bwysig iawn i deuluoedd sy'n delio â'r cynnydd parhaus mewn costau byw."
Un gwasanaeth sy'n sicr o fod yn boblogaidd yr haf hwn yw ail-lansiad y gwasanaeth dydd Sul rhwng canol dinas Abertawe a Rhosili (a weithredir gan Adventure Travel).
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Gall gwyliau haf ysgolion fod yn gyfnod drud i deuluoedd sy'n awyddus i gadw eu plant yn brysur.
"Mae ein menter bysus am ddim yn rhoi cyfle i bawb deithio o amgylch ein dinas wych ac yn sicrhau y gallant arbed eu harian ar gyfer yr amrywiaeth eang o atyniadau sydd ar gael.
"Mae cost uchel tanwydd yn rhywbeth sy'n ei gwneud yn fwyfwy anodd i berchnogion ceir ei fforddio felly rwy'n hyderus y byddwn yn gweld hyd yn oed mwy o bobl yn dewis teithio ar fws yr haf hwn."
Mae'r fenter bysus am ddim yn berthnasol i bob taith fws sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe tan 7pm ar ddiwrnodau pan fo'r cynnig ar waith.
Eleni, bydd y cynnig bysus am ddim ar gael bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 19 Gorffennaf a 31 Awst.