Menter arloesol yn cyrraedd carreg filltir miliwn o deithiau ar fysus am ddim
Bu miliwn o deithiau ar fysus am ddim drwy fenter arloesol yn Abertawe.
Ers iddo ddechrau yn haf 2021, amcangyfrifwyd bod y gwasanaeth unigryw sy'n cynnig teithiau ar fysus am ddim i breswylwyr ac ymwelwyr yn ystod cyfnodau gwyliau allweddol wedi cael ei ddefnyddio filiwn o weithiau.
Ac mae miloedd o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth bob penwythnos dros y Nadolig fel rhan o ymgyrch Yma i Chi y Gaeaf Hwn Cyngor Abertawe.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Gwnaethom lansio'r fenter yn haf 2021 fel rhan o'n cynllun adfer gwerth £20m i hybu preswylwyr a busnesau ar ôl y pandemig.
"Mae'r gwasanaeth am ddim wedi bod yn llwyddiant mawr ac ychydig yn fwy na thair blynedd yn ddiweddarach, mae'r ffaith bod miloedd o bobl yn ei ddefnyddio bob penwythnos cyn y Nadolig er mwyn siopa, cwrdd â ffrindiau neu fynd i leoedd ar ddiwrnod allan yn dangos bod y cynllun yn hynod boblogaidd.
"Rwyf am ddiolch i'r cwmnïau bysus sy'n rhan o'r cynllun am helpu i sicrhau ei fod yn llwyddiannus iawn."
Cyn y Pasg eleni, cyfrifwyd oddeutu 700,000 o deithiau fel rhan o'r cynllun. Cyfrifwyd 120,000 o deithiau yn ystod gwyliau'r Pasg a 224,000 o deithiau eraill yn ystod gwyliau'r haf. Rydym yn rhagweld y bydd niferoedd uchel tebyg ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.