Toglo gwelededd dewislen symudol

Bysus am ddim yn dychwelyd ar gyfer y cyfnod cyn y Nadolig

Gall siopwyr sy'n mynd i ganol dinas Abertawe'r Nadolig hwn deithio ar fysus am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, gan ddechrau ar benwythnos Gorymdaith y Nadolig, 16 Tachwedd.

Buses at Swansea Bus Station

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau bydd y cynnig trafnidiaeth gyhoeddus 'Teithio am Ddim Abertawe' yn dychwelyd ar gyfer cyfnod y Nadolig ac mae'n dilyn gwyliau'r haf gwych lle'r oedd bysus am ddim bob penwythnos.

Gan ddechrau ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd, bydd y cynnig am ddim diweddaraf ar waith bob dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Bydd gwasanaethau hefyd am ddim ddydd Llun 23 Rhagfyr a Noswyl Nadolig.

Bydd y gwasanaeth am ddim yn ailddechrau 27 Rhagfyr a bydd yn parhau i fod am ddim tan 7pm Nos Galan. Bydd preswylwyr sy'n dechrau ac yn gorffen eu taith yn Abertawe'n gallu teithio am ddim am 19 o ddiwrnodau.

Ar ddiwrnod Gorymdaith y Nadolig, 17 Tachwedd, bydd y gwasanaeth am ddim yn rhedeg tan 9pm, ond ar bob dydd arall lle mae bysus am ddim, mae'n rhaid i'r teithiau ddechrau cyn 7pm.

Gwybodaeth: www.abertawe.gov.uk/bysusamddim

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Hydref 2024