Newyddion gwych - mae'r cynnig bysus am ddim yn ôl y penwythnos hwn ar gyfer y Nadolig
Gall y rheini sy'n mynd i ganol dinas Abertawe i siopa deithio am ddim ar y penwythnosau cyn y Nadolig.
Nawr bod y streic gan staff bysus First Cymru wedi'i gohirio, gallwch arbed arian wrth ymweld ag unrhyw le yn Abertawe ar yr amod bod eich taith yn dechrau ac yn gorffen yn y ddinas.
Dyma'r rhestr lawn o ddyddiadau:
· 6 a 7 Rhagfyr
· 13 a 14 Rhagfyr
· 20 a 21 Rhagfyr
· Dydd Llun 22 Rhagfyr, dydd Mawrth 23 Rhagfyr a Noswyl Nadolig
· 27 a 28 Rhagfyr
· Dydd Llun 29 Rhagfyr, dydd Mawrth 30 Rhagfyr a Nos Galan.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Gall y Nadolig fod yn gyfnod drud ac rydym yn gobeithio y bydd pawb yn manteisio ar y cynnig gwych hwn.
"Dyma'r pumed tro rydym wedi darparu cludiant am ddim i deuluoedd yn Abertawe dros y Nadolig.
"Rwy'n falch y bydd Abertawe'n gwneud popeth y gall unwaith eto'r gaeaf hwn i gefnogi ein preswylwyr fel rhan o'n hymgyrch #YmaIChiYGaeafHwn.
"Mae pobl wedi manteisio ar fwy na miliwn o deithiau am ddim fel rhan o'r cynllun bysus am ddim ers i'r cyngor ei sefydlu, a gall teuluoedd arbed £20 amcangyfrifedig fesul taith.
"Nid denu pobl i ganol y ddinas yw unig ddiben y cynnig hwn, ond rydym am i fusnesau elwa o weld mwy o bobl yn dod i'r ddinas.
"Mae hefyd yn gyfle i'r cyhoedd deithio ar draws Abertawe i ymweld â theulu neu fwynhau'r hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig."
