Gorymdaith liwgar dros ryddid yn ffordd berffaith o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Roedd llu o ymwelwyr, preswylwyr a siopwyr yn Abertawe i ddathlu HMS Cambria ar Ddydd Gŵyl Dewi wrth i'r uned Llynges Frenhinol arfer ei hawl i orymdeithio drwy ganol y ddinas.

Mae HMS Cambria yn un o brif unedau wrth gefn y Llynges Frenhinol ac mae llawer o'i morwyr yn cael eu recriwtio o ardal Abertawe, felly nid oedd yn annisgwyl gweld cynifer o bobl ar y strydoedd.
Dyfarnwyd Rhyddfraint Abertawe i HMS Cambria yn 2018 a dilynodd yr orymdaith archwiliad o aelodau'r criw yn eu gwisgoedd milwrol llawn yn rotwnda Neuadd y Ddinas.
Yna aeth yr orymdaith drwy'r ddinas i'r LC drwy St Helen's Road, Stryd Rhydychen, Sgwâr y Santes Fair a Princess Way.
Meddai Paxton Hood-Williams, Arglwydd Faer Abertawe, a dderbyniodd y salíwt, "Roedd yn fore bendigedig ac yn ffordd anhygoel o liwgar o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
"Mae oddeutu traean o griw HMS Cambria yn dod o ardal de-orllewin Cymru ac roedd yn gyfle gwych i deuluoedd, ffrindiau a'r cyhoedd ddangos faint rydym yn eu gwerthfawrogi nhw a'u rôl."
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y cyngor, "Abertawe yw cartref ysbrydol HMS Cambria. Dyna pam rhoddwyd Rhyddfraint y Ddinas i'r uned a'r rheswm roeddem yn falch o'r penderfyniad i orymdeithio drwy'r ddinas.
"Mae milwyr wrth gefn yn gwneud cyfraniad cynyddol bwysig at y Llynges Frenhinol, gan gymryd rhan yn aml mewn ymgyrchoedd ledled y byd."
Meddai Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, Wendy Lewis, "Rydym yn hynod falch o'n dynion a'n menywod sydd wedi gwasanaethu'r lluoedd arfog.
"Drwy roi Rhyddfraint Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe i HMS Cambria yn 2018, dangosodd y cyngor a chymunedau ar draws y ddinas eu gwerthfawrogiad o bopeth y mae ein lluoedd arfog yn ei wneud i ddiogelu'r rhyddid a'r ddemocratiaeth rydym yn ymhyfrydu ynddynt."
Caerdydd yw cartref HMS Cambria, ond Abertawe yw cartref is-adran Tawe'r Llynges Frenhinol Wrth Gefn, is-grŵp i'r prif gorff. Cafodd yr orymdaith ei harwain ddydd Sadwrn gan fand Môr-filwyr Brenhinol Ei Fawrhydi Plymouth.