Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnig bysus am ddim y ddinas yn dychwelyd y penwythnos hwn

Mae cynnig bysus am ddim ein dinas yn dychwelyd ar gyfer penwythnosau hir hanner tymor mis Chwefror.

free ride feb 2022

Bydd yr holl deithiau bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Abertawe am ddim tan 7pm ar ddydd Sadwrn 19, dydd Sul 20, dydd Llun 21, dydd Gwener 25, dydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Chwefror fel y gall teuluoedd fynd allan gyda'i gilydd heb orfod poeni am y tâl.

Lansiwyd y fenter teithio am ddim yn ystod gwyliau haf y llynedd, ac roedd degau ar filoedd o bobl wedi achub ar y cyfle i deithio am ddim er mwyn siopa, gweld ffrindiau am goffi neu ymweld â thirnodau lleol.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, fod yn cynnig yn ôl oherwydd galw gan y cyhoedd. Meddai, "Mae'r fenter Bysus am Ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Dros gyfnod y Nadolig, er enghraifft, cynyddodd teithio ar fysus yn Abertawe 18% ar rai diwrnodau.

"Roedd y cynnig yn arbennig o lwyddiannus ar gyfer Gorymdaith y Nadolig pan ddaeth degau ar filoedd o bobl i weld y digwyddiad y cytunodd pawb mai dyna oedd yr un gorau a fu erioed.

"Yr adborth yr wyf wedi'i gael gan deuluoedd sy'n poeni am gostau byw cynyddol yw bod hwn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol oherwydd gallant wario'u cyflogau haeddiannol ar bethau eraill yn lle pan fyddant yn mynd ar eu teithiau.

"Mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn gwylio'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud yn Abertawe hefyd, gan addasu'r syniad i gefnogi teuluoedd yn eu hardaloedd hwy."

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Gobeithiwn y bydd y fenter teithio am ddim ddiweddaraf eto'n annog pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn fwy a'u ceir yn llai, gan helpu i leihau llygredd a thagfeydd.

"Mae wedi bod yn galonogol gweld pa mor llwyddiannus y mae'r fenter wedi bod ers ei lansio ar gyfer gwyliau haf yr ysgol y llynedd. Rydym eisoes yn ystyried sut gallwn barhau â'r fenter hon ar gyfer gwyliau'r Pasg a thu hwnt."

Mae'r fenter bysus am ddim yn berthnasol i bob taith fws sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe, tan 7pm ar ddiwrnodau pan fo'r cynnig ar waith. Bydd angen i deithwyr gydymffurfio ag unrhyw reolau pandemig Llywodraeth Cymru sydd mewn grym ar y pryd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig i deithio ar fysus am ddim, ewch i  https://www.abertawe.gov.uk/bysus

 

 

 

Close Dewis iaith