Cynnig #BysusAmDdimAbertawe i ddychwelyd ar gyfer y Nadolig a hanner tymor
Mae ffigurau newydd wedi dangos bod mwy na 220,000 o deithwyr wedi manteisio ar gynnig arloesol #BysusAmDdimAbertawe ein dinas.
O ganlyniad i lwyddiant ysgubol y fenter, mae'r cyngor wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu ailgyflwyno'r cynnig ar gyfer y Nadolig a hanner tymor mis Hydref, yn amodol ar gyllid.
Yn ôl cwmni First Cymru, bu cynnydd o gymaint â 51% yn nifer y teithwyr yn ystod cynnig gwyliau'r haf, a gwelwyd cynnydd o hyd at 65% yn niferoedd y teithwyr ar rai o'r llwybrau bysus prysuraf a weithredir ar benrhyn Gŵyr.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Lawnsiom fenter Bysus Am Ddim Abertawe yn yr haf i helpu teuluoedd a busnesau sydd wedi'i chael hi'n anodd oherwydd y pandemig.
"Mae llawer o deuluoedd wedi dweud wrthyf cymaint o wahaniaeth y mae wedi'i wneud iddynt. Maen nhw wedi gallu mwynhau dyddiau mas heb orfod poeni am y gost.
"Dyna pam mae'n bwysig ein bod yn ymestyn y cynllun yn ystod hanner tymor a chyfnod y Nadolig, yn amodol ar gyllid a thrafodaethau â gweithredwyr bysus.
"Mae hefyd wedi rhoi hwb i'r economi leol gyda phobl yn teithio i ganol y ddinas, ein hatyniadau a'n canolfannau siopau ar draws Abertawe.
Am bum penwythnos hir yn ystod gwyliau haf yr ysgolion roedd pobl yn gallu teithio am ddim ar deithiau a oedd yn dechrau ac yn gorffen yn Abertawe.
Mae'r adborth o'r arolwg a lenwyd gan y cyhoedd wedi bod yn arbennig o gadarnhaol hefyd, gyda bron 88% o ymatebwyr yn cymeradwyo'r syniad.