Cyfle i fynd â'r teulu i Bwll Cenedlaethol Cymru dros y Nadolig
Gall teuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd yn y dŵr dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd drwy fanteisio ar sesiynau nofio i'r teulu ym Mhwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe.
Roedd y cynnig yn llwyddiant mawr yn yr haf ac mae'r pwll bellach yn cynnig rhywbeth gwahanol i frechdanau twrci a siocledi ar ffurf sesiynau nofio i'r teulu a phobl ifanc dan 16 oed, gan ddechrau ar Noswyl Nadolig a pharhau tan 5 Ionawr.
Bydd sesiynau arbennig am ddim i bobl ifanc dan 16 oed o 27 Rhagfyr, a bydd sesiynau nofio i'r teulu ar gael o 28 Rhagfyr.
Ceir manylion isod, ond rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw i gymryd rhan. Mae modd trefnu sesiynau drwy fynd i dderbynfa'r pwll, drwy ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe neu drwy'r wefan yma:
https://www.swanseabaysportspark.wales/swim-at-wales-national-pool-swansea/
Sblash am ddim 11.00 - 12.00
24 Rhagfyr
28 Rhagfyr
29 Rhagfyr
30 Rhagfyr
31 Rhagfyr
2 Ionawr
3 Ionawr
5 Ionawr
Sblash Teulu - 15.00 - 16.00
28 Rhagfyr (14.00 - 15.00)
29 Rhagfyr
30 Rhagfyr
31 Rhagfyr
2 Ionawr
3 Ionawr
5 Ionawr