Y cyngor yn annog y llywodraeth i weithredu i gefnogi gwasanaethau lleol
Mae llywodraethau Cymru a'r DU yn cael eu hannog i gymryd camau i amddiffyn gwasanaethau hanfodol y cyngor yn sgil yr argyfwng costau byw, chwyddiant a biliau ynni sy'n codi i'r entrychion.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud eto pa gymorth ariannol y bydd cynghorau'n ei gael y flwyddyn nesaf, ond mae'n cael ei rhybuddio bod pwysau ar wasanaethau cyngor yn waeth nag y buont erioed, hyd yn oed ar anterth cyni.
Dywedodd Rob Stewart Arweinydd y Cyngor, wrth gyfarfod y cyngor ar 1 Rhagfyr fod y galw am wasanaethau'n codi'n gyflym oherwydd yr argyfwng costau byw, wrth i gostau eraill godi i'r entrychion oherwydd chwyddiant a phrisiau ynni.
Dywedodd fod pob cyngor yng Nghymru'n wynebu storm dân ariannol ac ynghyd â Chyngor Abertawe, maent wedi bod yn lobïo llywodraethau Cymru a'r DU am gymorth ychwanegol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau gofal a chymunedau.
Mewn sesiwn friffio i gynghorwyr, disgrifiodd cyfarwyddwr cyllid y cyngor, Ben Smith, sut mae'r cyngor yn bwriadu delio â rhai o'r heriau drwy dorri rhagor o'i gostau a defnyddio arian wrth gefn a Chronfa Adferiad Economaidd y cyngor.
Ond oherwydd prisiau ynni, costau cyflogau a phwysau chwyddiannol eraill a achoswyd gan amgylchiadau economaidd y DU, mae'r cyngor yn wynebu twll du ariannol o £44m yn 2023, gyda £59m pellach y flwyddyn ganlynol, a £64m ychwanegol yn 2025.
Ni ddisgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei setliad ariannol dros dro ar gyfer cynghorau cyn 14 Rhagfyr, a disgwylir y cyhoeddiad terfynol ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Ond yn ôl ei rhagolwg cyfredol, byddai cynnydd ariannol cyfartalog o 3.5% y flwyddyn nesaf, 2.4% y flwyddyn wedyn a thybir y bydd yn 2% y flwyddyn wedi hynny.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Gyda chwyddiant ar 11% yn awr, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi derbyn £1.5bn oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn nesaf dim ond i fod yn yr un sefyllfa, ond £600m yn unig y cafodd hi. Felly mae bwlch enfawr.
"Dyna pam rydym ni a chynghorau eraill yng Nghymru'n dod ynghyd i lobïo llywodraethau Cymru a'r DU i ddod o hyd i'r cyllid a'r gefnogaeth y mae eu hangen ar ein gwasanaethau yn y blynyddoedd i ddod."