Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm Gemau'r Gymanwlad yn dathlu eu llwyddiant yn nigwyddiad yr Arglwydd Faer

Bydd arwyr Gemau'r Gymanwlad o Abertawe yn cael eu hanrhydeddu yn ystod derbyniad dinesig yr wythnos nesaf.

Non Stanford triathlete

Mae athletwyr o'r ddinas wedi helpu i fod yn asgwrn cefn i dîm Cymru a enillodd 28 medal, gan gynnwys 8 medal aur, 6 medal arian a 14 medal efydd yn y Gemau yn Birmingham fis diwethaf.

Roedd mwy na 50 o gynrychiolwyr o Abertawe wedi gwisgo lliw coch Cymru yn Birmingham i gystadlu mewn llawer o gampau gan gynnwys Hoci, Reslo, Athletau, Nofio, Pêl-rwyd, Rygbi 7 Bob Ochr, Tennis Bwrdd, Bowls Lawnt, Treiathlon, Beicio Trac a Gymnasteg.  

Enillwyd medalau efydd gan Anna Hursey ar gyfer Tennis Bwrdd, Eluned King a Will Roberts ar gyfer Beicio Trac, Medi Harris ar gyfer Nofio a Harrison Walsh ar gyfer Athletau.

Ar ben hynny, cafwyd llwyddiant medal arian ar gyfer Pencampwr Treiathlon y Byd 2013, a'r seren o Abertawe, Non Stanford yn Nhreiathlon y Ras Gyfnewid Gymysg yn ogystal â Gordon Llewellyn a Julie Thomas o Abertawe, yn y para-bowls, ochr yn ochr â'u cyfarwyddwyr John Wilson a Mark Adams.  

Meddai'r Arglwydd Faer, y Cyng. Mike Day a fydd yn cynnal derbyniad ddydd Llun ym Mharlwr yr Arglwydd Faer yn Neuadd y Ddinas, "Pe bai Abertawe'n wlad, byddai wedi gorffen yn y 28ain safle ar y tabl medalau terfynol, gan drechu Ghana, Ffiji a Mozambique.

Meddai'r Cynghorydd Day, "Mae pawb yn Abertawe'n falch o gyflawniadau anhygoel yr holl gystadleuwyr o Abertawe. Maent yn ysbrydoliaeth go iawn i bob un ohonom a bydd derbyniad dinesig yn gyfle gwych i'r ddinas eu hanrhydeddu. Maen nhw'n wir ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o athletwyr." 

Mae Non Stanford, enillydd medal aur a enwyd yn Bencampwr Treiathlon Ewropeaidd yn Munich yn ddiweddar, yn esbonio pa mor bwysig yr oedd iddi gymryd rhan mewn chwaraeon yn ei dinas enedigol, Abertawe. 

"Roedd sefyll ar bodiwm yng ngemau'r Gymanwlad a gwylio pobl yn chwifio baner Cymru yn freuddwyd oes i mi. Roedd hi'n wych cael gwneud hynny fel rhan o dîm hefyd. Dathlom yr eiliad honno gyda'n gilydd, a bydda i byth yn ei hanghofio.

"Dwi bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith fy mod i'n dod o Gymru, ac rwy'n falch iawn hefyd fy mod i wedi cael fy magu yn Abertawe. Mae'r clybiau gwych sydd gennym yma yn y ddinas yn rhan fawr o'm llwyddiant." 

Llun: World Triathlon / Ben Lumley
 



 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2022