Toglo gwelededd dewislen symudol

Yr Arglwydd Faer yn dweud 'diolch' i'n holl arwyr Gemau'r Gymanwlad

Cafwyd noson ddisglair yn y Plasty neithiwr wrth i'r Arglwydd Faer, Mike Day, gynnal derbyniad dinesig ar gyfer arwyr Gemau'r Gymanwlad ein dinas.

lord mayor and non stanford

Mae athletwyr o'r ddinas wedi helpu i fod yn asgwrn cefn i dîm Cymru a enillodd 28 medal, gan gynnwys 8 medal aur, 6 medal arian a 14 medal efydd yn y Gemau yn Birmingham fis diwethaf.

Roedd mwy na 50 o gynrychiolwyr o Abertawe wedi gwisgo lliw coch Cymru yn Birmingham i gystadlu mewn llawer o gampau gan gynnwys Hoci, Reslo, Athletau, Nofio, Pêl-rwyd, Rygbi 7 Bob Ochr, Tennis Bwrdd, Bowls Lawnt, Treiathlon, Beicio Trac a Gymnasteg.  

Roedd llawer ohonynt yn y Plasty neithiwr, ac yn eu plith roedd y mabolgampwraig enwog a Phencampwraig Treiathlon y Byd, Non Stanford, a enillodd y wobr arian yn Nhreiathlon y Ras Gyfnewid Gymysg.

Meddai'r Arglwydd Faer y Cynghorydd Mike Day, a gynhaliodd dderbyniad dydd Llun yn y Plasty, "Pe bai Abertawe'n wlad, byddwn wedi gorffen yn y 28ain safle ar y tabl medalau terfynol, gan drechu Ghana, Ffiji a Mozambique.

Meddai'r Cynghorydd Day, "Mae pawb yn Abertawe'n falch o gyflawniadau anhygoel yr holl gystadleuwyr o Abertawe. Maent yn ysbrydoliaeth go iawn i bob un ohonom a bydd derbyniad dinesig yn gyfle gwych i'r ddinas eu hanrhydeddu. Maen nhw'n wir ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o athletwyr." 

Mae Non Stanford, enillydd medal aur a enwyd yn Bencampwr Treiathlon Ewropeaidd yn Munich yn ddiweddar, yn esbonio pa mor bwysig yr oedd iddi gymryd rhan mewn chwaraeon yn ei dinas enedigol, Abertawe. 

"Roedd sefyll ar bodiwm yng ngemau'r Gymanwlad a gwylio pobl yn chwifio baner Cymru yn freuddwyd oes i mi. Roedd hi'n wych cael gwneud hynny fel rhan o dîm hefyd. Dathlom yr eiliad honno gyda'n gilydd, a bydda i byth yn ei hanghofio.

"Dwi bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith fy mod i'n dod o Gymru, ac rwy'n falch iawn hefyd fy mod i wedi cael fy magu yn Abertawe. Mae'r clybiau gwych sydd gennym yma yn y ddinas yn rhan fawr o'm llwyddiant." 

 

 

Close Dewis iaith