Ardal chwarae'n cael ei agor yn swyddogol - mewn pryd ar gyfer yr haf
Mae rhagor o bobl ifanc yn Abertawe'n dathlu ar ôl i'w hardal chwarae gymunedol newydd gael ei hagor yn swyddogol mewn pryd ar gyfer yr haf.

Mae'r ardal chwarae newydd ar Myrtle Road yn rhan o raglen arloesol Cyngor Abertawe gwerth £8m i agor ardaloedd chwarae awyr agored newydd neu well ar gyfer pob cymdogaeth.
Hyd yn hyn mae mwy na 60 o ardaloedd chwarae wedi'u huwchraddio ac agorwyd yr un ym Mhentre'r Ardd gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart.
Mae'r safle newydd yn cynnwys offer cyffrous fel siglenni, trampolîn, rowndabowt siglo, si-so, ardaloedd glanio meddal, polyn totem synhwyraidd a hyd yn oed panel chwarae chwilotwr pwll.
Meddai'r Cyng. Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd,
"Rydym wedi gorffen y gwaith uwchraddio ar fwy na 60 o ardaloedd chwarae cymunedol ers i ni ddechrau'r prosiect hwn, ac nid ydym yn rhoi stop ar hyn eto.
"Mae teuluoedd a phlant wrth eu boddau â'r mannau newydd hyn, a byddwn yn rhoi'r diweddaraf i bawb wrth i ragor o barciau gael eu gwella."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae arbenigwyr yn cytuno bod chwarae awyr agored yn bwysig iawn i blant. Mae'n eu helpu i gadw'n iach, gwneud ffrindiau, a chael hwyl.
"Mae'r ardaloedd chwarae am ddim hyn hefyd yn help mawr i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw. Rydym yn falch o gefnogi lles ym mhob rhan o Abertawe."
Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Mae maint ein huchelgais i wella ardaloedd chwarae'n unigryw yn y DU ac rydym hefyd yn buddsoddi tua £3m mewn cenhedlaeth newydd o barciau sglefrio, traciau beicio, a chaeau chwaraeon ar draws y ddinas.
"Dyma'r buddsoddiad mwyaf rydym wedi'i wneud erioed mewn chwarae awyr agored, ac mae'n rhywbeth y dywedodd pobl leol wrthym eu bod wir arnynt ei eisiau."
Gellir defnyddio ardal chwarae newydd Pentre'r Ardd am ddim ac mae'n agored i bawb. Mae'n lle gwych i blant chwarae, archwilio a mwynhau'r awyr agored gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd.