Toglo gwelededd dewislen symudol

Skin Phillips: 360°

13 Medi 2024 - 5 Ionawr 2025

Glynn Viv Skin Phillips exhibition

Glynn Vivian Gyda'r Hwyr, 12 Medi 5:30pm - 8:00pm

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno arddangosfa o waith yr artist Skin Phillips, ffotograffydd sydd wedi bod yn ganolog i'r byd sglefrfyrddio wrth iddo ddatblygu o fod yn fudiad dan ddaear i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd. Bydd yr arddangosfa gyffrous hon, sydd ar agor o 13 Medi i 5 Ionawr yn arddangos ffotograffiaeth enwog Phillips, o Abertawe i Los Angeles, sy'n dangos rhai o'r eiliadau mwyaf diffiniol yn hanes sglefrfyrddio.

Mae Skin Phillips, sy'n adnabyddus am ei waith gyda'r cylchgrawn o San Diego, Transworld Skateboardingwedi bod yn ffigur canolog wrth ddogfennu'r byd sglefrfyrddio. Mae ei ffotograffiaeth yn cyfleu adrenalin ac artistiaeth sglefrfyrddio ond mae hefyd yn dangos y newid diwylliannol o isddiwylliant dan ddaear i ffenomen fyd-eang. Bydd yr arddangosfa'n cynnwys detholiad o luniau mwyaf dylanwadol Phillips, yn ogystal â lluniau nas gwelwyd o'r blaen a deunydd archifol sy'n rhychwantu degawdau o ddatblygiad sglefrfyrddio.

Yn ogystal â dangos ei waith cynnar, mae Phillips wedi cael ei gomisiynu i greu cyfres newydd o ffotograffau sy'n arddangos sglefrfyrddio cyfoes yn Abertawe, a fydd yn dod yn rhan o gasgliad parhaol yr Oriel. Mae'r comisiynau newydd yn rhan o "Artistiaid Ydym Oll" a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y gyfres hon yn rhoi sylw i fywiogrwydd ac amrywiaeth y gymuned sglefrfyrddio leol, gan atgyfnerthu arwyddocâd diwylliannol sglefrfyrddio yn Abertawe.

Gwybodaeth am Skin Phillps: Mae Skin Phillips, sydd o Abertawe'n wreiddiol, wedi gadael marc parhaol ar y byd sglefrfyrddio drwy ei ffotograffiaeth. Dechreuodd ei yrfa ar ddechrau'r 1980au ac mae ei waith wedi bod yn arweiniol mewn cyhoeddiadau ac arddangosfeydd sglefrfyrddio yn fyd-eang. Mae safbwynt unigryw Phillips a'i allu i ddangos hanfod y diwylliant sglefrfyrddio yn golygu ei fod wedi ennill clod a pharch cyffredin o fewn y diwydiant.

Meddai Karen MacKinnon, Curadur y Glynn Vivian, "Mae'n anrhydedd i ni arddangos ffotograffiaeth Skin Phillips yn Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae ei waith yn darparu portread dilys a phwerus o sglefrfyrddio, a fydd yn berthnasol i gynifer o bobl yma yn Abertawe ac ar draws y byd. Mae'n ddathliad o ffotograffiaeth, celf stryd, chwaraeon ac arwyddocâd diwylliannol ehangach sglefrfyrddio i gynifer o bobl. Rydym yn gyffrous i rannu ffotograffau rhagorol Skin â'n holl ymwelwyr."

Meddai Skin Phillips, Mae dychwelyd i Abertawe ar gyfer yr arddangosfa hon yn arbennig o bwysig i fi. Mae'n gyfle i fi rannu fy nhaith a straeon y sglefrwyr hynny rwyf wedi tynnu lluniau ohonynt dros y blynyddoedd. Rwy'n gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ffotograffwyr a sglefrwyr fel ei gilydd."

Gwybodaeth Ychwanegol:Am ragor o fanylion am yr arddangosfa a digwyddiadau cysylltiedig, ewch i wefan Oriel Gelf Glynn Vivian neu ffoniwch yr Oriel ar 01792 516900

Dilynwch ni ar:Facebook Oriel Gelf Glynn Vivian
Twitter: @glynnvivian
Instagram: @GlynnVivian

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Medi 2024