Toglo gwelededd dewislen symudol

Rôl newydd ar gyfer Glynn Vivian

Bydd un o leoliadau celfyddydau gorau Abertawe'n chwarae prif rôl ar deledu cenedlaethol ddydd Llun(sylwer: 27 Medi).

Glynn viv sky landmark tv

Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, yn rhan o raglen deledu Sky Arts, Landmark.

Ffilmiwyd y rhaglen gan ddilyn cyfyngiadau diogelwch COVID ym mis Ebrill 2021. Roedd y rheini a ffilmiwyd yn cynnwys yr Arglwydd Faer ar y pryd, y Cyng. Mark Child.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Bydd yn wych gweld Oriel Gelf Glynn Vivian ar deledu cenedlaethol - mae'n lleoliad gwych y mae pobl ar draws Abertawe'n mwynhau ymweld ag ef. Rwy'n edrych ymlaen at wylio'r rhaglen."

Bydd pob pennod o Landmark yn canolbwyntio ar dri artist a fydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i greu tirnodau lleol ar gyfer y rhanbarth y maent yn byw ynddo. 

Byddant yn adeiladu, yn weldio ac yn cerflunio dan oruchwyliaeth beirniaid arbenigol, gan ddefnyddio ystod o gyfryngau, gan gynnwys cerameg, efydd, goleuadau LED ac eitemau chwyddadwy.

Bydd yr artistiaid o Gymru a fydd yn ymddangos yn rownd Oriel Glynn Vivian yn cynnwys: Nathan Wyburn, Candice Bees a John Merrill. Y beirniad gwadd enwog fydd Charlotte Church.

Bydd yr artist diwylliant pop, Nathan, yr arbenigwr gwaith gwifren, Candice, a'r cerflunydd pren, John, yn cyflwyno darnau o waith sy'n ymdrin â themâu fel trasiedïau cenedlaethol, anifeiliaid mewn amgylcheddau trefol a chynaladwyedd mewn celf.

Caiff eu tirnodau eu datgelu i aelodau'r gymuned leol, a wahoddwyd i'r broses ffilmio gan wneuthurwyr y rhaglen.

Bydd yr enillydd yn ennill lle yn y rownd derfynol, lle bydd yn cyflwyno syniad i greu tirnod cenedlaethol.

Dangosir Landmark ar Sky Arts, sianel 11 ar Freeview a'r gwasanaeth ffrydio NOW. Dangosir rownd Cymru ar 27 Medi.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021