Toglo gwelededd dewislen symudol

Achosion cymunedol yn cael hwb gan gyllidebau cynghorwyr

Gallai diffibrilwyr, achosion da cymunedol, banciau bwyd a gwelliannau ffyrdd i gyd gael ychydig mwy o help gan gynghorwyr yn y blynyddoedd i ddod.

Swansea Bay

Mae gan bob un o'r 75 cynghorydd yn Abertawe yr hawl i gyllideb gymunedol gwerth £15,000 y flwyddyn i'w wario i wella ardaloedd eu ward yn ystod eu cyfnod o bum mlynedd yn y swydd.

Mae'r math o brosiectau y maent wedi ymwneud â hwy yn y gorffennol wedi cynnwys diffibrilwyr arbed bywydau mewn lleoliadau cymunedol, atgyweirio llochesi bysus, rhoddion i ysgolion lleol ac elusennau cymunedol, mân welliannau i lwybrau troed neu ffyrdd a gwario ar arddangosfeydd blodau.

Ac ar ben hynny, mae cynghorwyr mewn wardiau aml-aelod wedi cael cyfle i ddod ynghyd i weithio ar brosiectau mwy sydd o fudd i breswylwyr, gan gynnwys trefnu digwyddiadau Nadolig cymunedol, arddangosfeydd tân gwyllt a dathliadau cymunedol.

Nawr gofynnir i'r Cabinet adnewyddu'r cynllun cyllidebau cymunedol am bum mlynedd arall yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar.

Mae adroddiad i'r Cabinet yr wythnos nesaf yn nodi'r meini prawf eang ar gyfer yr hyn y gall cynghorwyr wario'r lwfans arno.

Cychwynnwyd y cynllun yn 2017 ac yn y rownd derfynol cyn yr etholiadau diwethaf, gwariwyd bron yr holl arian a glustnodwyd i gynghorwyr ar gyfer eu hachosion da lleol.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cynghorwyr wedi gweithio'n galed iawn yn eu cymunedau i sicrhau bod y cyllidebau cymunedol maent yn eu derbyn yn mynd mor bell â phosib.

"Mae'r cyllid hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol i brosiectau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i olwg a naws eu cymunedau. Yn aml, y preswylwyr eu hunain sy'n awgrymu'r prosiectau, a'r aelodau lleol sy'n helpu i wireddu'r uchelgais hwnnw."

Yn y gorffennol, mae cynghorwyr mewn sawl ward wedi cefnogi eu cymunedau, er enghraifft, gyda grantiau tuag at ddiffibrilwyr arbed bywyd yn eu hardaloedd neu wedi rhoi grantiau mawr eu hangen i gefnogi banciau bwyd.

Mae rhai wedi darparu cyllid ar gyfer basgedi crog i sirioli'u cymunedau. Mae cynghorwyr eraill wedi defnyddio'u cyllid i ddarparu cyfarpar ychwanegol ar gyfer parciau chwarae i blant yn eu hardal fel rhan o'r gronfa wella glodwiw sydd wedi arwain at wella ugeiniau o ardaloedd chwarae dros y 18 mis diwethaf.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Rhan o rôl cynghorydd yw bod yn hyrwyddwr cymunedol ar gyfer ei ardal. Mae cyllidebau cymunedol wedi galluogi iddynt roi llais i breswylwyr lleol a darparu cefnogaeth i brosiectau y maent am eu gweld yn llwyddo."

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Mehefin 2022