Toglo gwelededd dewislen symudol

Achosion da cymunedol i elwa o gronfa grantiau'r cynghorwyr

Gallai diffibrilwyr, achosion da cymunedol, banciau bwyd a gwelliannau ffyrdd i gyd gael ychydig mwy o help gan gynghorwyr yn y blynyddoedd i ddod.

Mae gan bob un o'r 75 cynghorydd yn Abertawe yr hawl i gyllideb gymunedol gwerth £15,000 y flwyddyn i'w wario i wella ardaloedd eu ward yn ystod eu cyfnod o bum mlynedd yn y swydd.

Mae'r math o brosiectau y maent wedi ymwneud â hwy yn y gorffennol wedi cynnwys diffibrilwyr arbed bywydau mewn lleoliadau cymunedol, atgyweirio llochesi bysus, rhoddion i ysgolion lleol ac elusennau cymunedol, mân welliannau i lwybrau troed neu ffyrdd a gwario ar arddangosfeydd blodau.

Ac ar ben hynny, mae cynghorwyr mewn wardiau aml-aelod wedi cael cyfle i ddod ynghyd i weithio ar brosiectau mwy sydd o fudd i breswylwyr, gan gynnwys trefnu digwyddiadau Nadolig cymunedol, arddangosfeydd tân gwyllt a dathliadau cymunedol.

Mae'r Cabinet wedi cytuno i adnewyddu'r cynllun cyllidebau cymunedol am bum mlynedd arall yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol diweddar.

Nododd adroddiad i'r Cabinet yr wythnos hon y meini prawf eang ar gyfer yr hyn y gall cynghorwyr wario'r lwfans arno.

Cychwynnwyd y cynllun yn 2017 ac yn y rownd derfynol cyn yr etholiadau diwethaf, gwariwyd bron yr holl arian a glustnodwyd i gynghorwyr ar gyfer eu hachosion da lleol.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae cynghorwyr wedi gweithio'n galed iawn yn eu cymunedau i sicrhau bod y cyllidebau cymunedol maent yn eu derbyn yn mynd mor bell â phosib.

"Mae'r cyllid hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol i brosiectau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i olwg a naws eu cymunedau.Yn aml, y preswylwyr eu hunain sy'n awgrymu'r prosiectau, a'r aelodau lleol sy'n helpu i wireddu'r uchelgais hwnnw."

Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Rhan o rôl cynghorydd yw bod yn hyrwyddwr cymunedol ar gyfer ei ardal. Mae cyllidebau cymunedol wedi galluogi iddynt roi llais i breswylwyr lleol a darparu cefnogaeth i brosiectau y maent am eu gweld yn llwyddo."

Darganfyddwch sut y gwariwyd y rownd ariannol diwethaf yn eich ward yma: Gwariant Cyllideb Gymunedol Cynghorwyr o fis Mai 2017 i fis Mawrth 2022 - Abertawe

 

 

 

Close Dewis iaith