Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorfodi cynllunio

Mae gorfodi cynllunio yn archwilio honiadau o dorri rheolaeth gynllunio â'r nod o'u datrys drwy ddefnyddio'r dulliau neu'r camau gweithredu mwyaf priodol.

Rydym yn gyfrifol am orfodi'r holl reolau sy'n ymwneud â materion cynllunio, gan gynnwys mwynau.

Beth yw ystyr torri rheolaeth gynllunio?

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn diffinio torri rheolaeth gynllunio fel:

"cyflawni datblygiad heb y caniatâd cynllunio gofynnol, neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad a osodwyd pan gyflwynwyd y caniatâd cynllunio."

Enghreifftiau o dorri rheolaeth gynllunio:

  • cyflawni gwaith adeiladu, gweithrediadau peirianneg a newidiadau defnydd materol heb ganiatâd cynllunio pan fo gofyn cael caniatâd cynllunio
  • datblygiad sydd wedi cael caniatâd cynllunio, ond nid yw'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau cymeradwy
  • methu cydymffurfio ag amodau neu delerau'r cytundeb cyfreithiol sydd ynghlwm â chaniatâd neu gydsyniad
  • hysbysebion y mae'n rhaid cael caniatâd eglur ar eu cyfer o dan y Rheoliadau Hysbysebu, ond sy'n cael eu harddangos heb ganiatâd*
  • dymchwel adeilad mewn ardal gadwraeth, heb gael caniatâd ardal gadwraeth, pan fo hynny'n ofynnol *
  • gwaith a gyflawnir ar adeilad "rhestredig", sy'n effeithio ar ei gymeriad neu ei leoliad hanesyddol, heb gael caniatâd adeilad rhestredig*
  • methu cydymffurfio â gofynion hysbysiad cynllunio cyfreithiol (e.e.) hysbysiad gorfodi, hysbysiad terfynu, hysbysiad atal etc*

*Mae'r eitemau hyn yn droseddau.

Ni fyddwn yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag anghydfodau rhwng cymdogion yn unig ac, yn arbennig, ni all ymdrin ag anghydfodau ffiniau.

Pa wybodaeth y mae ei hangen arnom pan fyddwn yn gwneud cwyn?

  1. Bydd rhaid cael union leoliad y safle neu'r eiddo y mae'r gŵyn yn ymwneud ag ef
  2. Union natur eich pryder, h.y. y toriad posib o reolaeth gynllunio
  3. Os yw'n bosib, enw'r person/sefydliad sy'n gyfrifol a'r dyddiad a/neu'r amser y dechreuodd y toriad
  4. Mae'n rhaid cael manylion y sawl sy'n cwyno hefyd (enw a chyfeiriad etc.) oherwydd ni dderbynnir cwynion anhysbys. Os nad ydych am ddatgelu eich manylion, gallwch gysylltu â'ch Cynghorydd lleol a gofyn iddo gyflwyno'r gŵyn ar eich rhan

Beth sy'n digwydd i'ch cwyn?

  1. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn pum niwrnod gwaith os darperir cyfeiriad post neu e-bost
  2. Ymdrechwn i gysylltu â chi o fewn 84 niwrnod gwaith o dderbyn y gŵyn i nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater

Cyfrinachedd

Gwneir pob ymdrech i gadw hunaniaeth y sawl sy'n cwyno yn gyfrinachol. Mewn nifer o achosion, ffynhonnell wreiddiol y gŵyn yw swyddog y cyngor. Fodd bynnag, yn aml darperir y dystiolaeth orau gan y rhai sy'n byw wrth ymyl safle'r tramgwydd cynllunio honedig. Mae'n debygol y bydd rhai achosion lle mae amharodrwydd yr achwynydd i ddatgelu ei hun ac i ddarparu tystiolaeth yn cael effaith sylweddol ar y canlyniad.

Sut i wneud cwyn

Mae sawl ffordd i gofrestru cwyn am orfodi:

Cyflwyno cwyn i orfodi cynllunio Ffurflen cwyno gorfodi cynllunio

Neu:

Ffurflen cwyno gorfodi cynllunio

Rhowch wybod i ni os hoffech i ni ymchwilio i achos posib o dorri rheolau cynllunio.

Cofrestr gorfodi cynllunio 2024

Dyma restr gyflawn o'r rhybuddion gorfodi a gyflwynwyd yn ystod 2024.

Cofrestr gorfodi cynllunio 2023

Dyma restr gyflawn o'r rhybuddion gorfodi a gyflwynwyd yn ystod 2023.

Cofrestr gorfodi cynllunio 2022

Dyma restr gyflawn o'r rhybuddion gorfodi a gyflwynwyd yn ystod 2022.

Cofrestr gorfodi cynllunio 2021

Dyma restr gyflawn o'r rhybuddion gorfodi a gyflwynwyd yn ystod 2021.

Cofrestr gorfodi cynllunio 2020

Dyma restr gyflawn o'r rhybuddion gorfodi a gyflwynwyd yn ystod 2020.
Close Dewis iaith