Pobl ifanc Townhill yn dathlu eu hardal chwarae newydd
Bydd miloedd o blant mewn cymunedau ar draws Abertawe'n elwa o'r rownd ddiweddaraf o fuddsoddiad yn ardaloedd chwarae'r ddinas.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed yn uwchraddio mwy na 60 o ardaloedd chwarae cymunedol ar draws y ddinas, a bydd ardaloedd chwarae mewn rhagor o gymdogaethau'n cael eu gwella dros y misoedd nesaf.
Pobl ifanc Townhill sy'n byw gerllaw Gors Avenue yw'r diweddaraf i elwa, ac mae'r ardal chwarae bellach wedi agor yn swyddogol.
Mae'n rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae am ddim. Mae'r cyngor wedi cytuno i fuddsoddi £1 filiwn yn ychwanegol mewn ardaloedd chwarae dros y flwyddyn i ddod gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad hyd yn hyn i £8 miliwn.
Yn Gors Avenue, mae amrywiaeth eang o bethau i'w gwneud gan gynnwys carwsél gyda bariau, siglen fasged, llithren, weiren wib a phaneli synhwyraidd.
Mae gwaith uwchraddio a gwblhawyd mewn ardaloedd chwarae eraill yn ddiweddar yn cynnwys Myrtle Road ym Mhentre'r Ardd a Pharc Brynmelyn yn Waun Wen.
Ac mae hyn i gyd yn ychwanegol i'r gwaith sydd newydd ddechrau yn SA1 i adeiladu dau barc dinesig newydd a fydd yn cynnwys cyfleusterau chwarae a llwybr pwmpio.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'n bosib mai ein buddsoddiad mewn chwarae awyr agored i blant a phobl ifanc yw'r buddsoddiad mwyaf o'i fath yn y DU yn y blynyddoedd diweddar.
"Mae'n rhan o'n hymrwymiad i drechu tlodi, cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw a hyrwyddo lles ym mhob un o'n cymunedau."