Helpwch i lunio dyfodol Gŵyr dyma gyfle i chi fynegi eich barn!
Nid lle hardd yn unig yw Bro Gŵyr - hon oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf erioed i'w dynodi.

Ac yn awr, rydym yn adolygu Cynllun Rheoli Gŵyr i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i'r bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn gofalu am yr ardal anhygoel hon. P'un a ydych yn byw ym Mro Gŵyr, yn ennill eich bywoliaeth yma, neu'n hoffi archwilio ei harfordir a'i chefn gwlad - dyma'ch cyfle i helpu i lunio dyfodol yr ardal.
Beth yw'r cynllun hwn?
Mae'r cynllun rheoli'n nodi sut rydym yn gofalu am amgylchedd naturiol, treftadaeth a bywyd gwledig Gŵyr - yn awr ac yn y dyfodol O warchod bywyd gwyllt i wella mynediad, mae'r cynllun hwn yn cwmpasu'r cyfan.
Mae gan Gyngor Abertawe ddyletswydd statudol i gadw a gwella harddwch naturiol Gŵyr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd eich barn yn helpu i lunio'r cynllun rheoli 5 mlynedd, sy'n arwain ein gwaith ni a gwaith ein partneriaid.
Sut gallwch gymryd rhan
P'un a oes gennych syniadau mawr neu awgrymiadau bach, mae eich llais yn bwysig.
Mae ein harolwg bellach yn fyw - rydym am glywed gennych:
Cadwch lygad am y diweddaraf: caiff manylion ein digwyddiadau ymgynghori personol sydd ar ddod eu postio yma a'u rhannu drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Tirwedd Genedlaethol Gŵyr.
https://www.abertawe.gov.uk/cynllunrheoligwyrarolwg
Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch gwyr@abertawe.gov.uk