Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi ymgyrch bywyd gwyllt newydd sydd â'r nod o ddiogelu ymhellach gytrefi o forloi sy'n byw ar hyd morlin Gŵyr.

Mae'r cyngor yn gweithio gydag ysgolion a busnesau lleol ym mhenrhyn Gŵyr i wahardd yn wirfoddol y defnydd o gylchynau hedegog sy'n gallu dal a lladd morloi ar ei draethau.

gower seal

Daw'r cam hwn ar ôl i'r cyngor gymeradwyo cynnig sydd â'r nod o ddod â'r defnydd o'r cylchynau i ben yn agos at fywyd gwyllt ar hyd morlin yr ardal.

Mae'r cynnig, a gafodd ei gymeradwyo'n unfrydol, yn cefnogi ymgyrch Grŵp Morloi Gŵyr i gynyddu ymwybyddiaeth o'r peryglon y mae cylchynau hedegog yn eu peri i forloi ac annog pobl i ddefnyddio dewisiadau mwy diogel fel ffrisbis solet.

Mae Parc Carafanau a Gwersylla Pitton Cross, Parc Gwersylla a Theithio Kennexstone a Surfside Café, Langland, eisoes wedi gwirfoddoli i roi'r gorau i'w gwerthu.

Mae Grŵp Morloi Gŵyr wedi ymweld ag ysgolion yn yr ardal i siarad â phobl ifanc am forloi a bywyd morol arall, gan amlygu'r ffordd orau o gefnogi'r ymdrech.

Mae aelodau'r grŵp hefyd yn gweithio gyda'r cyngor i lansio ymgyrch ehangach, gan osod arwyddion ar draethau i gefnogi'r gwaharddiad gwirfoddol yn ogystal â rhoi rhagor o gyngor i fusnesau a chymunedau lleol ynghylch sut gallant helpu.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y cyngor bellach yn cyflwyno gwaharddiad gwirfoddol rhag defnyddio cylchynau hedegog ar draethau sy'n eiddo i'r cyngor hefyd.

Meddai, "Rydym yn cefnogi'n llwyr ymdrechion Grŵp Morloi Gŵyr i ddiogelu ein morloi. Rydym mor ffodus bod gennym forloi ger llawer o'n traethau yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr.

"Mae'r mwyafrif helaeth o'r miloedd o bobl sy'n ymweld â phenrhyn Gŵyr bob blwyddyn yn trin yr ardal, ei bywyd gwyllt a'i morlin â pharch. Ochr yn ochr â Grŵp Morloi Gŵyr, rydym yn annog ymwelwyr i gyfrannu at ddiogelu ein morloi hefyd."

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2024