Toglo gwelededd dewislen symudol

Newyddion da i Dregŵyr wrth i lwybr beicio newydd agor

Mae ein llwybr cerdded a beicio diweddaraf o Fairwood Terrace i'r orsaf reilffordd leol bellach ar agor. Beth am roi cynnig arno'r penwythnos hwn?

gowerton railway station active travel 1

gowerton active travel 2

Mae'r cyswllt hir-ddisgwyliedig wedi'i gymeradwyo gan Network Rail ac mae bellach yn barod i'w ddefnyddio gan deithwyr ar y trên, beicwyr a cherddwyr.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod Network Rail wedi ei gymeradwyo'n ffurfiol yr wythnos diwethaf a'i fod bellach ar agor i'w ddefnyddio gan y cyhoedd.

Meddai, "Mae'r broses wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl oherwydd ei fod yn anodd cael y caniatâd angenrheidiol i gontractwyr arbenigol gwblhau'r gwaith sy'n ofynnol gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, yn ogystal â sicrhau argaeledd y contractwyr hynny i gyflawni'r gwaith.

"Ein nod o'r cychwyn oedd agor y llwybr erbyn diwedd yr haf, mewn pryd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, ac rwy'n falch iawn y bydd y plant sy'n dychwelyd i'r ysgol ar gyfer tymor newydd yr hydref yn gallu ei ddefnyddio.

"Mae'n creu cysylltiad lleol byr, ond mae hefyd yn gysylltiad gwych yr holl ffordd o Bontarddulais, drwy Gorseinon a Thregŵyr a thu hwnt. Mae'n sicrhau bod preswylwyr, cymudwr ac ymwelwyr yn gallu cyrraedd yr orsaf a'r gymuned ehangach yn haws ac yn ddiogel. Mae'n gam mawr arall ymlaen ar gyfer teithio cynaliadwy yn Abertawe."

 Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2025