Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y cyngor yn gweithredu ar ei ymrwymiadau gwyrdd

Disgwylir i ymrwymiad Cyngor Abertawe i fod yn sefydliad sero-net cyn diwedd y degawd gymryd cam mawr ymlaen yr wythnos nesaf.

wild flowers daisy 1

Mae'r cyngor wedi lleihau ei ôl troed carbon fwy na 60% yn y degawd diwethaf ac mae'n bwriadu gwella hyn ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, gan osod esiampl i gymunedau a busnesau ar draws y ddinas a thu hwnt.

Ar hyn o bryd, mae'n adnewyddu ei gynllun corfforaethol er mwyn sicrhau bod ei ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur yn flaenllaw i'w waith.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod y cynllun corfforaethol yn rhestru chwe phrif flaenoriaeth y cyngor ac mae'n darparu llwybr ymarferol sy'n sicrhau bod y ffordd y mae'r cyngor yn cyflwyno ein gwasanaethau'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau hynny a dymuniadau pobl Abertawe.

Meddai, "Mae ein blaenoriaethau'n cynnwys diogelu pobl rhag niwed, gwella addysg a sgiliau, mynd i'r afael â thlodi, trawsnewid ein heconomi a'n hisadeiledd a thrawsnewid y cyngor i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion preswylwyr heddiw.

"Mae'r cyngor wedi cyhoeddi argyfwng natur a hinsawdd, felly rydym yn ceisio addasu er mwyn adlewyrchu'r realiti newydd hwn a'r gwaith y mae angen i ni ei wneud i ddiogelu bioamrywiaeth a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd."

Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet sy'n gyfrifol am lywio ymateb y cyngor i newid yn yr hinsawdd, fod y cyngor eisoes yn chwarae rôl arweiniol wrth fynd i'r afael â'r broblem.

Meddai, "Mae gan ein cyngor y cerbydlu trydan mwyaf o bob cyngor yng Nghymru ac rydym wedi lleihau faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yn ein hadeiladau ac ar ein rhwydwaith o oleuadau stryd.

"Ar ben hynny, rydym yn gweithio'n galed i warchod ac annog bioamrywiaeth ar draws y ddinas, yn ogystal ag o fewn grwpiau a busnesau cymunedol.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Ynghyd â'r pum blaenoriaeth arall, y nod newydd fydd 'Cyflawni Adferiad Natur a Newid yn yr Hinsawdd'.

"Mae'n fwy uchelgeisiol na'r nod blaenorol, sef 'Cynnal a chyfoethogi Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth Abertawe', ac mae'n alwad mwy clir am weithredu ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud."

Meddai, "Mae cyflawni'n targed o fod yn gyngor sero-net erbyn 2030 yn uchelgeisiol iawn ac mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Ond rydym yn benderfynol o osod esiampl i'n cymunedau a sicrhau bod yr holl ddinas yn sero-net erbyn 2050."

Bwriedir cynnal cyfarfod cyngor llawn ar 7 Gorffennaf i gytuno ar y newid i'r cynllun corfforaethol.

 

 

 

Close Dewis iaith