Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi coeden frenhinol yn rhodd i Abertawe

Mae etifeddiaeth barhaus y cysylltiadau agos rhwng Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth ll, ei phryder am yr amgylchedd a'i pherthynas ag Abertawe wedi'i datgelu yn y ddinas yr wythnos hon.

queen's green canopy pot

Cafodd y goeden a fu'n rhan o ymgyrch 'Coeden y Coed' (Tree of Trees) y diweddar Frenhines i ddathlu ei jiwbilî blatinwm ei chyflwyno i Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe i gydnabod ei gwaith gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid gan gynnwys Cyngor Abertawe i wella a diogelu'n hamgylchedd lleol. 

Yn gynharach eleni, dewiswyd Abertawe'n ddinas sy'n Hyrwyddo Canopi Gwyrdd y Frenhines i helpu i goffáu Blwyddyn Jiwbilî Blatinwm Ei Mawrhydi gydag ymgyrch plannu coed fawr.

Nawr mae Canopi Gwyrdd y Frenhines wedi rhoi'r coed coffaol arbennig o 'Goeden y Coed' a godwyd y tu allan i Balas Buckingham i gymunedau ledled y wlad fel cydnabyddiaeth barhaus o ymrwymiad Ei Mawrhydi i'r amgylchedd.

Fel Dinas Hyrwyddo, mae Canolfan yr Amgylchedd Abertawe wedi derbyn gwernen 10 troedfedd mewn pot tyfu coffaol arbennig a fydd yn cael ei arddangos yng Nghanolfan yr Amgylchedd ar Pier Street o 27 Hydref tan 2pm ar 5 Tachwedd 2022.

Yna caiff y goeden ei phlannu yn Fferm Gymunedol Abertawe yn yr wythnosau i ddod er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau. Bydd y pot arian arbennig gyda'i blac coffa'n cael ei ddefnyddio i dyfu cyfres o goed newydd i'w plannu'r tu allan fel coffâd parhaus.

Cyflwynwyd y goeden gan Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg EF, Mrs Louise Fleet i Steve Bolchover, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan yr Amgylchedd, mewn seremoni arbennig yn y ganolfan ar 26 Hydref.

Roedd Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Mr Stephen Rogers a Dirprwy Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe, y Cynghorydd Graham Jones hefyd yn bresennol.

Roedd y Cyng. Andrea Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Drawsnewid Gwasanaethau a Newid yn yr Hinsawdd, y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, y Cyng. Sara Keeton, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Abertawe hefyd yn bresennol ochr yn ochr â staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr Canolfan yr Amgylchedd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith