Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant yn helpu i adeiladu sector busnes gwyrdd newydd

Mae pobl fusnes Abertawe'n cael cyngor arbenigol ar sut y gallant helpu eraill i wneud y ddinas yn wyrddach.

A green-themed training session

Maent yn cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a fydd yn eu helpu i roi hwb i waith Cyngor Abertawe i wella bioamrywiaeth.

Mae'r sesiynau am ddim i'w mynychu ac maent ar agor i holl fentrau'r ddinas sydd am arwain eraill ar ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i dyfu busnes.

Mae'r rheini sy'n mynd i'r sesiynau'n cynnwys garddlunwyr, dylunwyr trefol a sefydliadau cynnal a chadw.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, David Hopkins: "Mae Abertawe'n ddinas werdd ac mae'n mynd yn wyrddach diolch i ymdrechion busnesau a sefydliadau eraill.

"Mae ein strategaeth isadeiledd gwyrdd yn annog defnydd gwell o fannau gwyrdd, llystyfiant, pridd a dŵr sy'n gwneud ein dinas yn lle gwell i fyw."

Datblygwyd yr hyfforddiant gan y cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r asiantaeth adfywio Urban Foundry.

Fe'i hariannwyd gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU.

Mae hyfforddiant sydd ar y gweill ar gyfer busnesau yng nghanol dinas Abertawe'n cynnwys

·       Tach 23: Cynllunio, dylunio a gosod dysglau plannu dŵr.

·       Rhag 7: Cynnal a chadw tiroedd ar gyfer natur a phobl.

Gwybodaeth a chadw lle:www.bit.ly/GreenTraining22

 

Llun: Gweithdy hyfforddiant busnes Abertawe ar y pwnc toeon gwyrdd.     

Close Dewis iaith