Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor i fuddsoddi mewn cerbydlu gwyrdd mwy

Mae cynlluniau Cyngor Abertawe i weithredu cenhedlaeth newydd o gerbydau trydan yn datblygu'n gyflym.

green fleet

Mae'r cyngor eisoes yn gweithredu 60 o gerbydau trydan a bydd 25 ychwanegol yn dod yn ystod y misoedd nesaf.

A nawr mae 16 o fecanyddion yn ei dîm trafnidiaeth wedi cael eu hyfforddi i gadw'r cerbydau ar y ffordd.

Mae Cyngor Abertawe'n cael gwared ar gerbydau diesel hŷn y cerbydlu fel rhan o'i ymgyrch i fod yn gyngor di-garbon erbyn 2030. Disgwylir i'r cerbydlu masnachol nwyddau ysgafn fod yn gwbl drydanol erbyn 2025, gyda'r gweddill - gan gynnwys cerbydau gwastraff ac ailgylchu - yn rhai allyriadau isel iawn erbyn 2030.

Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, fod y symudiad tuag at hyfforddi mecanyddion uned drafnidiaeth y cyngor mewn atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau trydan yn gosod esiampl i eraill ac yn dangos ei ymrwymiad i ddyfodol di-garbon.

Meddai, "Rydym wedi bod yn annog sefydliadau eraill yn Abertawe i ymuno â ni yn ein nod o fod yn Abertawe di-garbon erbyn 2050. Nod y cyngor yw cyflawni hynny erbyn 2030. Bydd ein cerbydlu o tua 800 o gerbydau yn rhai trydan neu allyriadau isel iawn erbyn 2030 fel rhan o'n haddewid i wneud mwy - a hynny cyn gynted â phosib - i amddiffyn ein hamgylchedd rhag newid yn yr hinsawdd.

"Mae ein buddsoddiad o ran hyfforddi ein tîm trafnidiaeth hefyd yn dangos sut y gall gweithredu i fynd i'r afael â newid hinsawdd greu a diogelu swyddi yn ein cymunedau."

Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe i sefydlu'r cwrs hyfforddiant mecaneg ac maent bellach yn gwahodd busnesau eraill ledled y ddinas i gymryd mantais o'r cynnig ac ymuno â'r cwrs hefyd.

Dywedodd Mark Barrow, Rheolwr Cerbydlu'r cyngor, fod yr hyfforddiant mecaneg a ddarparwyd ar gyfer 16 o fecanyddion gan Goleg Gŵyr Abertawe gyda chymorth undeb Unite yn fuddsoddiad yn nyfodol y tîm.

Meddai, "Hyd yn hyn rydym wedi gorfod anfon ein cerbydau trydan at gontractwr allanol ar gyfer gwneud unrhyw waith atgyweirio a chynnal a chadw. Diolch i'r hyfforddiant hwn, mae gan y tîm y gallu i gyflawni'r gwaith hwnnw'n fewnol.

"Mae'n gam pwysig ymlaen ar gyfer y tîm ac yn gydnabyddiaeth o'u hymrwymiad a'u rôl yn y cyngor ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn gwella cydnerthedd y gwasanaethau a ddarperir gan yr uned drafnidiaeth gan nad oes yn rhaid i ni ddibynnu ar gymorth allanol i gynnal a chadw unrhyw un o'n cerbydau. 

"Drwy hyfforddi'r tîm cyfan yn awr cyn i'r cerbydau trydan gael eu cyflwyno i'r gwasanaeth byddwn yn barod ar gyfer y dyfodol."

 

 

 

Close Dewis iaith