Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwylanod

Gwybodaeth am wylanod.

Sylwer ei fod yn anghyfreithlon i ladd unrhyw aderyn a niweidio neu ddinistrio nyth sy'n cael ei defnyddio neu ei chynnwys (Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981). 

Gwylanod y Penwaig yw'r rhywogaeth fwyf cyffredin i'w chael mewn lleoliadau arfordirol.  Maent yn bwydo'n naturiol ar bysgod, pryfed, adar y môr llai a hyd yn oed wyau a chywion gwylanod eraill.  Mae bara'n annaturiol ac yn niweidiol iddynt, yn enwedig y rhai bach a'r cyngor fyddai i beidio â rhoi'r math hwn o fwyd iddynt.

Yn y degawdau diwethaf, mae niferoedd cynyddol wedi cael eu denu i'r mewndir gan fod bwyd gwastraff o ffynonellau dynol ar gael yn hawdd.  Mae'r cyngor yn darparu gwasanaeth casglu bwyd ymyl y ffordd wythnosol a dyma'r ffordd a argymhellir i gael gwared ar fwyd gwastraff preswyl. A wnewch chi sicrhau hefyd fod yr holl wastraff arall yn cael ei waredu'n unol ag amserlen gasglu'ch ardal. Gellir cael gafael ar hwn drwy'r canlynol: www.abertawe.gov.uk/chwiliocasgliadau

Os ydych yn dymuno bwydo adar yn eich gardd, mae gwefan yr RSPB yn darparu cyngor defnyddiol y gellir cael gafael arno drwy'r ddolen ganlynol  www.rspb.org.uk/birds-and-wildlife/advice/how-you-can-help-birds/feeding-birds/

Os ydych yn profi problemau gyda gwylanod yn eich ardal, yna mae gwefan yr RSPB yn cynnwys gwybodaeth am opsiynau ataliol ar eu cyfer

Close Dewis iaith