Cymerwch gip ar ein cynigion ar gyfer hanner tymor yr wythnos nesaf
Mae digonedd o bethau i chi a'ch teulu edrych ymlaen atynt os ydych chi'n mynd o gwmpas Abertawe yn ystod hanner tymor.

Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe'n Cynnig Sesiynau Chwaraeon Fforddiadwy i Bobl Ifanc dros Hanner Tymor
Amserlen Gwersylloedd Hanner Tymor:
Gwersyll Aml-gampau (8-14 oed) | Canolfan Hamdden Llandeilo Ferwallt | 24 Chwefror 10:00-15:00 | £15
Diwrnod cyffrous o chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged, pêl-bicl a chyfeiriannu. Rhaid cadw lle (01792) 235040
Gwersyll Us Girls (8-14 oed) | Canolfan Hamdden Pen-lan | 25 Chwefror 10:00-15:00 | £7.50
Chwaraeon, gweithgareddau ffitrwydd a gweithdai gwell iechyd yn arbennig i ferched. Rhaid cadw lle (01792) 588079
Beicio Mynydd (11-14 oed) | Dyffryn Clun | 26 Chwefror 10:00-12:00 ac 13:00-15:00 | £5
Anturiaethau beicio mynydd cyffrous dan arweiniad arweinwyr beicio mynydd profiadol. Rhaid cadw lle https://loom.ly/uotYWfk
Gwersyll Gemau Stryd (8-14 oed) | Canolfan Hamdden Cefn Hengoed | 27 Chwefror 10:00-15:00 | £7.50
Chwaraeon trefol difyr i bawb gan gynnwys tennis bwrdd, pêl-foli a mwy. Rhaid cadw lle (01792) 798484.
I gael rhagor o wybodaeth am y Tîm Chwaraeon ac Iechyd a'r amrywiaeth lawn o gyfleoedd sydd ar gael, ewch i www.abertawe.gov.uk/chwaraeonaciechyd
Plws
· Teithio llesol - https://www.abertawe.gov.uk/LlwybrauTeithioLlesolWediuCwblhau
· Traethau - Mae gan Abertawe draethau gwych ar garreg ei drws
· Gwyr - Dewch i archwilio'r lleoliadau Awyr Dywyll gorau ym Mhenrhyn Gŵyr
· Croeso Abertawe - Croeso Abertawe mewn cydweithrediad a Tomato Energy
· Amgueddfa Abertawe - Museum of Marvels
· Glynn Vivian - Gweithgareddau Teuluol
· Canolfan Dylan Thomas - Gweithgareddau Gwyliau
· Llyfrgelloedd yn Abertawe - Mwy o wybodaeth am eich llyfrgell leol gan gynnwys oriau agor a chyfleusterau
· Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Digwyddiadau
· Plantasia - Penblwydd Hapus Sw Trofannol Plantasia