Toglo gwelededd dewislen symudol

Deg peth i'w gwneud yn Abertawe yn ystod hanner tymor mis Hydref

Mae'r hanner tymor yn nesáu, felly p'un a ydych yn gyffrous am dymor Calan Gaeaf neu'n gobeithio cadw'n gynnes yn yr hydref gyda rhywfaint o ymarfer corff, mae digon o weithgareddau i ddewis ohonynt i ddiddanu'r teulu cyfan.

science fest 2025

Ysbrydion yn y Ddinas, 3pm - 8pm 25 Hydref, St David's Place a Pharc Amy Dillwyn

Byddwch yn barod am ddechrau brawychus i hanner tymor mis Hydref wrth i greaduriaid chwyddadwy enfawr ac angenfilod sy'n cerdded o gwmpas feddiannu canol dinas Abertawe!

Mae ein digwyddiad blynyddol am ddim, Ysbrydion yn y Ddinas: Angenfilod Afreolus, a gefnogir gan Gynnig Gofal Plant Cymru, wedi cael diweddariad arswydus. Yn ogystal â hwyl i'r teulu yn ardal ryfedd St David's Place, bydd parth newydd sbon ym Mharc 'Tywyll' Amy Dillwyn yn eich diddanu ac yn gyrru ias i lawr eich cefn.  

Y Castell Arswydus, 11am - 4pm, 25 Hydref, Castell Ystumllwynarth

Bydd nos Galan Gaeaf yn llawn hwyl yn hytrach na braw yn y Castell Arswydus. Yn cynnwys cymeriadau Calan Gaeaf cyfareddol, amser stori, ystafelloedd brawychus ac ystafell grefft i greu rhywbeth arswydus go iawn i fynd ag ef adref.

Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe, 25 - 26 Hydref, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ydych chi eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn ôl am benwythnos o hwyl, darganfod a gwyddoniaeth ymarferol. Ymchwiliwch i wyddoniaeth byd gwallgof Roald Dahl neu mentrwch i fyd yr anifeiliaid gyda'r dyn camera bywyd gwyllt ac enillydd Strictly Come Dancing 2022, Hamza Yassin!

Bydd sioeau a gweithgareddau cyffrous ar gyfer pob oedran.

Comic Con Abertawe, 9am-4.30pm, 26 Hydref, LC Abertawe

Mae dathliad diwylliant poblogaidd mwyaf Abertawe yn dychwelyd, ac mae rhestr o gymeriadau eleni'n edrych yn well nag erioed.

Trên Bwganod, 27-31 Hydref, Blackpill

Bydd y trên bwganod poblogaidd wedi'i addurno'n frawychus rhwng dydd Llun 27 Hydref a dydd Gwener 31 Hydref. Ffordd frawychus o weld y bae. Ydych chi'n ddigon dewr i deithio ar y trên bwganod?

Us Girls, Chwaraeon ac Iechyd Abertawe, 10am-3pm, 28 Hydref, Canolfan Hamdden Pen-lan

Diwrnod cyffrous llawn egni a chyffro. Gall merched fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, o gymnasteg a phêl-osgoi i nofio ac aml-chwaraeon.

Rhaid cadw lle. Cysylltwch â Chanolfan Hamdden Pen-lan yn uniongyrchol.

Gemau Stryd, 10am-3pm, 30 Hydref, Canolfan Hamdden Treforys

Diwrnod cyffrous llawn gweithgarwch corfforol a hwyl. Gyda mynyddfyrddio, nofio, aml-chwaraeon a phêl-droed ar yr agenda, bydd digon o weithgarwch i sicrhau bod pawb yn symud ac yn gwenu'n gyson.

Rhaid cadw lle, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Treforys yn uniongyrchol.

Gweithdai i'r Teulu: Cwils crynedig a swynion arswydus - 10am-4pm, 31 Hydref, Canolfan Dylan Thomas

Ewch i Ganolfan Dylan Thomas am weithgaredd creadigol ymarferol am ddim lle bydd cyfle i chi wneud cwils, dysgu sut i wneud memrwn wedi'i heneiddio a defnyddio'r ddau i greu swyn bwganllyd hudol! Bydd cerddi'r hydref Dylan Thomas hefyd yn helpu i ysbrydoli creadigrwydd.

Gweithgareddau Calan Gaeaf, 27-31 Hydref, Pier y Mwmbwls

Mae digonedd o hwyl i'w gael ar Bier y Mwmbwls! Yr hanner tymor hwn, gall eich teulu fwynhau sioeau hud a lledrith arswydus, creu atgofion hudolus gyda chymeriadau annwyl fel Blippi a Ms Rachel, a bod yn greadigol drwy addurno teisennau bwganllyd a mwy.

Rhaid cadw lle, cysylltwch â Phier y Mwmbwls yn uniongyrchol.

Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth, 7.30pm, 31 Hyd-26 Tachwedd, Castell Ystumllwynarth

Mae Digwyddiad Calan Gaeaf Ochr Dywyll Castell Ystumllwynarth yn brofiad hollol unigryw i oedolion yn unig. Bydd un grŵp bach fesul sesiwn yng nghwmni tywysydd a fydd yn datgelu hanes tywyll Castell Ystumllwynarth. Rhaid cadw lle.

Gallwch weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau hanner tymor a'r newyddion diweddaraf yn www.croesobaeabertawe.com/ neu ewch i @joiobaeabertawe ar gyfryngau cymdeithasol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2025