Dewch i ddathlu'r Hobyd ddydd Sadwrn
Ddydd Sadwrn yn Llyfrgell Treforys, bydd yr unigolyn sy'n gyfrifol am gyfieithu un o'r straeon antur enwocaf am y tro cyntaf yn rhannu ei gyfrinachau am sut aeth ati i wneud hynny.

Bydd Adam Pearce yn siarad am y broses o gyfieithu The Hobbit gan JRR Tolkien i'r Gymraeg am y tro cyntaf mewn dau ddigwyddiad - bydd un yn Gymraeg am 1pm, a'r llall yn Saesneg am 2pm.
Mae'r Hobydyn adrodd hanes anturiaethau Bilbo Baggins, y canolfyd, dreigiau, trysorau a modrwy aur, ac mae Adam Pearce yn dod â'r cyfan yn fyw drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhaid archebu tocynnau am ddim ar gyfer y digwyddiad ddydd Sadwrn, ffoniwch 01792 516770 neu e-bostiwch llyfrgell.treforys@abertawe.gov.uk