Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg Boddhad Tenantiaid 2025 a Chystadleuaeth Raffl

Hoffech chi gael y cyfle i ennill £100?

council housing 1

Drwy gwblhau a dychwelyd ein harolwg, gallwch gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth raffl am ddim i ennill un o dri cherdyn rhodd gwerth £100. 

Hoffem glywed eich barn am y gwasanaeth tai. Mae eich barn yn bwysig iawn i ni gan ei bod yn ein helpu i barhau i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.

Rydym wedi anfon llythyr at ein holl denantiaid yn darparu manylion am Arolwg Boddhad Tenantiaid 2025.

Mae sawl ffordd o gwblhau'r arolwg:

1.       Ar-lein - ewch i wefan Cyngor Abertawe a chwiliwch am arolwg tenantiaid; defnyddiwch y ddolen hon: https://www.abertawe.gov.uk/arolwgtenantiaid neu'r côd QR yn y ddelwedd

2.       Galwch heibio'ch Swyddfa Ardal leol a gofynnwch am arolwg - gallwch hefyd gyflwyno eich ffurflen wedi'i llenwi yno

3.       Gallwch ofyn i ni bostio un atoch gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich arolwg a chymryd rhan yn y gystadleuaeth raffl yw dydd Sul, 23 Tachwedd 2025.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Alison Winter, Swyddog Cyfranogiad a Chynnwys drwy e-bostio alison.winter@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635043.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Hydref 2025