£5.5m o gymorth ariannol ar gyfer hwb cyhoeddus newydd canol dinas Abertawe
Mae cynllun proffil uchel gan Gyngor Abertawe i gynnwys mwy o wasanaethau cyhoeddus allweddol yng nghanol y ddinas wedi derbyn hwb ariannol mawr.
Darparwyd grant o £2m gan Lywodraeth Cymru, ac mae £3.5m pellach ar gael i'r cyngor i ddatblygu hen siop BHS fel canolbwynt cyhoeddus.
Darperir yr arian dan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cymorth i wella canol trefi ar draws Cymru.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd yr arian sylweddol hwn yn ein helpu i ddarparu lleoliad rhagorol i bobl gwrdd a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus sy'n bwysig iddynt."
Meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, "Rwy'n falch ein bod ni'n gallu cefnogi'r cynllun pwysig hwn yng nghanol dinas Abertawe."
Gallai miloedd o bobl ymweld â'r hwb bob wythnos, a fydd yn cael ei ddatblygu ar hen safle BHS a siop What! ar Stryd Rhydychen.
Y nod ar gyfer yr adeilad - a allai agor y flwyddyn nesaf - yw cynnig lleoliad croesawgar ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor a sefydliadau eraill.
Mae gwasanaethau'r cyngor sy'n cael eu hystyried i adleoli yno'n cynnwys Llyfrgell Abertawe, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a'r Ganolfan Gyswllt.
Mae staff y cyngor a'r cyhoedd yn cael y newyddion diweddaraf am gynlluniau. Mae'r cyngor yn parhau i ystyried opsiynau ar gyfer lleoliadau gwasanaethau eraill y Ganolfan Ddinesig ar gyfer y dyfodol.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'r grant Trawsnewid Trefi yn gam pwysig ar gyfer ein cynllun hwb cymunedol. Bydd yr hwb yn ddefnyddiol iawn o'r cyhoedd - ac yn hygyrch i bawb."
- Trawsnewid Trefi - https://llyw.cymru/cymorth-i-wella-canol-trefi
- Hwb Cymunedol - https://www.abertawe.gov.uk/hwbcymunedol
Llun: Sut y gallai hwb cymunedol newydd canol dinas Abertawe edrych. Llun: Austin-Smith:Lord Ltd