Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymunedau gwledig Abertawe i elwa o hwb ariannol gwerth £200,000

Mae Llyfrgell Ddynol arloesol â'r nod o greu cysylltiadau newydd mewn ardaloedd gwledig rhwng plant ysgol a phobl hŷn yn eu cymunedau'n cael hwb drwy grant gan Gyngor Abertawe.

bantani cymru children event

Nod y fenter Llyfrgell Ddynol a gynhelir gan Gwmni Buddiant Cymunedol Bantani Cymru yw creu cysylltiadau newydd lle gall pobl hŷn a phlant iau mewn cymunedau gwledig rannu straeon a dysgu gan ei gilydd.

Mae'r prosiect yn un o 13 o gynlluniau sydd wedi elwa o grantiau gwerth £200,000 fel rhan o brosiect angori gwledig y cyngor sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae cynlluniau eraill y disgwylir iddynt elwa o'r cyllid yn cynnwys:

·       The Old Mill Foundation - Gwirfoddolwyr dan arweiniad y gymuned sy'n cefnogi oedolion sydd â diagnosis o ganser, eu teuluoedd a'u gofalwyr sy'n ceisio gosod paneli solar ynghyd â storfeydd batri. - £21,148.80

·       Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru - Prosiect sy'n cynnwys 17 hectar o dir rhwng Fairwood a Phengwern o'r enw Cartersford a fydd yn ailblannu'r coetir ac yn dod â manteision cynefin a thirwedd i'r rhan hon o fro Gŵyr - £14,956.03

·       Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru - Prosiect 'Mabwysiadu Llednant', a fydd yn gwella sgiliau pobl ac yn rhoi'r wybodaeth, yr hyder a'r brwdfrydedd iddynt i'w galluogi i weithio gyda'i gilydd i 'fabwysiadu' eu hyd agosaf o afon. - £14,836.99

·       Cwmni Buddiant Cymunedol Anxiety Support Wales - Prosiect i dreialu cynllun arfaethedig ar gyfer y dyfodol fel menter allgymorth y bwriedir iddi fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl enbyd oedolion 18 oed ac yn hŷn yn wardiau gwledig gogledd Abertawe. - £14,009.35

Aseswyd yr holl brosiectau hyn gan grŵp cynghori gwledig.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Gorffenaf 2025