Hunanasesu a gwella yng Nghyngor Abertawe
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021yn rhoi dyletswydd ar Gyngor Abertawe i barhau i adolygu ei berfformiad. Un ffordd o wneud hwn yw trwy ymgynghori â phobl leol, undebau, staff a busnesau bob blwyddyn.
Mae gan Gyngor Abertawe ddyletswydd gyfrifol i barhau i adolygu ei 'ofynion perfformiad', hynny yw, i ba raddau y mae'n gwneud y canlynol:
- arfer ei swyddogaethau'n effeithiol;
- defnyddio ei adnoddau'n economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol;
- sicrhau bod ei lywodraethu'n effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod.
Rydym yn gwneud hyn drwy broses o hunanasesu barhaus sy'n cynnwys gwrando ar arbenigedd ein cyfoedion a phrofiadau bywyd pobl sy'n defnyddio ac yn darparu ein gwasanaethau a'r rheini yr effeithir arnynt gan ein gwasanaethau.
Gallwch ddarllen ein hadroddiad diweddaraf yma Annual review of performance