Hwb sector cyhoeddus
Mae ein partner adfywio tymor hir, Urban Splash, yn datblygu cynigion ar gyfer hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant fel rhan o gam dau Bae Copr.


Mae'r cynigion hyn yn cynnwys Hwb Sector Cyhoeddus fel rhan o gynllun defnydd cymysg ehangach a fydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd eraill a mannau manwerthu a chyhoeddus. Byddai'r Hwb Sector Cyhoeddus yn weithle i rai o staff y cyngor gan gynnwys staff nad ydynt yn ymdrin â'r cyhoedd sy'n gweithio yn y Ganolfan Ddinesig ar hyn o bryd. Byddai bron 1,000 o weithwyr yn gweithio yn yr adeilad newydd. Byddai hyn hefyd yn cynnwys gweithwyr o sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn ogystal â thenantiaid eraill.
Bwriedir i'r Hwb Sector Cyhoeddus agor yn 2027.
Fel rhan o gam dau Bae Copr, bwriedir codi gwesty newydd hefyd ar dir rhwng yr LC ac Arena Abertawe.
Rydym bellach mewn trafodaethau manwl â datblygwr a gweithredwr dewisol, sy'n cydweithio â sawl brand gwesty byd-eang amlwg. Unwaith y bydd y trafodaethau hyn wedi'u cwblhau, byddwn yn cyhoeddi brand y gwesty.
Bydd gan y gwesty arfaethedig 150 o ystafelloedd gwely a bar ar y to a fydd yn cynnig golygfeydd o Fae Abertawe, gan ddarparu ar gyfer tua 40,000 o westeion y flwyddyn.
Ariennir gwaith adeiladu'r gwesty drwy gymysgedd o gronfeydd datblygwyr ac arian grant, gan gynnwys cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2025, yn amodol ar gytundebau terfynol a chaniatâd cynllunio.
Bydd elfennau pellach o gam dau Bae Copr hefyd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.