Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Hysbysebu ar bileri mewn meysydd parci

Mae hysbysebu mewn meysydd parcio yn cynnig ffordd unigryw ac effeithiol o hysbysebu sydd wedi helpu ers blynyddoedd lawer i werthu mwy o gynnyrch, brandiau a/neu wasanaethau.

Mae wedi bod yn gyfrwng effeithlon ar gyfer cyflwyno neges farchnata/ymwybyddiaeth dro ar ôl tro ym Meysydd Parcio Aml-lawr eraill drwy dargedu cynulleidfa berthnasol yn uniongyrchol. Mae'n darparu ffordd gost-effeithiol o gyflwyno eich brand a'ch neges i gynulleidfa eang.

Mae hysbysebion lapio ar bileri yn ffordd wych o gyflwyno neu gynyddu ymwybyddiaeth o frand. Maent yn creu effaith gyffredinol uchel ac yn cynnal cysondeb mewn lle mawr; gan guddio pileri concrit mawr. Mae hysbysebion lapio ar bileri yn dal sylw a gallant ychwanegu at unrhyw faes parcio.

Yn annhebyg i'r glud finyl confensiynol, caiff hysbysebion lapio ar bileri eu hargraffu ar ddeunydd Coast Display nad yw'n crychu, sy'n wrthfflam ac y gellir ei ailddefnyddio.

Mae'n cymryd 3-4 wythnos i gynhyrchu'r deunydd, felly gadewch ddigon o amser cyn y cynhelir y digwyddiadau fel y gallwn gydlynu dyddiadau gosod a thynnu'r hysbysebion.

Sylwer

  • Maint yr hysbyseb (fesul ochr) yw 320mm o led x 970mm o hyd. 2 ochr panel fesul piler.
  • Mae'r prisiau uchod yn cynnwys cynhyrchu'r deunydd yn gychwynnol a gosod yr hysbyseb.
  • Lleiafswm o 5 hysbyseb lapio fesul archeb.
  • Buddsoddiad am flwyddyn ar ôl ei osod.
  • Mae'n cynnwys gwaith cychwynnol i argraffu a gosod y gwaith celf wedi'i gwblhau.
  • Gall y cleient newid yr hysbyseb pileri ar unrhyw adeg, ond codir tâl uniongyrchol am y costau argraffu a gosod.
  • Ychwanegir TAW at bob pris.

 

Maes parcio aml-lawr y Cwadrant

  • 8 lefel
  • 515 o leoedd
  • 305 o bileri 
  • 2 ochr hysbysebu fesul piler
  • 7 ramp yn mynd i fyny
  • 6 ramp yn mynd i lawr

 

Maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr

  • 10 lefel
  • 654 o leoedd
  • 350 o bileri
  • 2 ochr hysbysebu fesul piler
  • 9 ramp yn mynd i fyny
  • 9 ramp yn mynd i lawr

 

Maes parcio aml-lawr Arena Abertawe

  • 2 lefel
  • 250 o leoedd
  • 100 o bileri
  • 2 ochr hysbysebu fesul piler
  • 1 ramp yn mynd i fyny
  • 1 ramp yn mynd i lawr

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm masnachol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Awst 2024