Hysbysebu ar bileri mewn meysydd parci
Mae hysbysebu mewn meysydd parcio yn cynnig ffordd unigryw ac effeithiol o hysbysebu sydd wedi helpu ers blynyddoedd lawer i werthu mwy o gynnyrch, brandiau a/neu wasanaethau.
Mae wedi bod yn gyfrwng effeithlon ar gyfer cyflwyno neges farchnata/ymwybyddiaeth dro ar ôl tro ym Meysydd Parcio Aml-lawr eraill drwy dargedu cynulleidfa berthnasol yn uniongyrchol. Mae'n darparu ffordd gost-effeithiol o gyflwyno eich brand a'ch neges i gynulleidfa eang.
Mae hysbysebion lapio ar bileri yn ffordd wych o gyflwyno neu gynyddu ymwybyddiaeth o frand. Maent yn creu effaith gyffredinol uchel ac yn cynnal cysondeb mewn lle mawr; gan guddio pileri concrit mawr. Mae hysbysebion lapio ar bileri yn dal sylw a gallant ychwanegu at unrhyw faes parcio.
Yn annhebyg i'r glud finyl confensiynol, caiff hysbysebion lapio ar bileri eu hargraffu ar ddeunydd Coast Display nad yw'n crychu, sy'n wrthfflam ac y gellir ei ailddefnyddio.
Mae'n cymryd 3-4 wythnos i gynhyrchu'r deunydd, felly gadewch ddigon o amser cyn y cynhelir y digwyddiadau fel y gallwn gydlynu dyddiadau gosod a thynnu'r hysbysebion.
Sylwer
- Maint yr hysbyseb (fesul ochr) yw 320mm o led x 970mm o hyd. 2 ochr panel fesul piler.
- Mae'r prisiau uchod yn cynnwys cynhyrchu'r deunydd yn gychwynnol a gosod yr hysbyseb.
- Lleiafswm o 5 hysbyseb lapio fesul archeb.
- Buddsoddiad am flwyddyn ar ôl ei osod.
- Mae'n cynnwys gwaith cychwynnol i argraffu a gosod y gwaith celf wedi'i gwblhau.
- Gall y cleient newid yr hysbyseb pileri ar unrhyw adeg, ond codir tâl uniongyrchol am y costau argraffu a gosod.
- Ychwanegir TAW at bob pris.
Maes parcio aml-lawr y Cwadrant
- 8 lefel
- 515 o leoedd
- 305 o bileri
- 2 ochr hysbysebu fesul piler
- 7 ramp yn mynd i fyny
- 6 ramp yn mynd i lawr
Maes parcio aml-lawr y Stryd Fawr
- 10 lefel
- 654 o leoedd
- 350 o bileri
- 2 ochr hysbysebu fesul piler
- 9 ramp yn mynd i fyny
- 9 ramp yn mynd i lawr
Maes parcio aml-lawr Arena Abertawe
- 2 lefel
- 250 o leoedd
- 100 o bileri
- 2 ochr hysbysebu fesul piler
- 1 ramp yn mynd i fyny
- 1 ramp yn mynd i lawr
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm masnachol.