Hysbysebu Gorsaf fysus Abertawe
Mae gorsaf fysus Abertawe yn ganolbwynt amlwg o weithgarwch yng nghanol y ddinas ac mae'n denu miloedd o gymudwyr, siopwyr ac ymwelwyr bob dydd.
- Mae 100% o'r holl lwybrau bysus naill ai'n dechrau neu'n gorffen yno.
- Mae mwy na 15 miliwn o ymwelwyr yn mynd trwy'r orsaf bob blwyddyn.
- Mae ar agor 24 awr y dydd, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn cerdded trwyddi rhwng 6.30am a 11.30pm bob dydd.
- Mae mwy na 2,000 o fysus yn cyrraedd ac yn gadael yr orsaf bob dydd.
- Mae manwerthwyr cenedlaethol a lleol yn y ganolfan siopa gyfagos.
- Mae bwytai a thafarndai cenedlaethol a lleol o fewn pellter cerdded 2 funud.
- Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yr LC ac Amgueddfa Abertawe o fewn pellter cerdded 5 munud.
Mae'n rhaid i Gyngor Abertawe gymeradwyo cynnwys y copi cyn ei argraffu. Yn anffodus, nid ydym yn gallu derbyn unrhyw hysbysebu sy'n ymwneud ag alcohol neu dybaco, neu unrhyw beth arall a all wrthdaro â Chyngor Abertawe.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm masnachol.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 05 Awst 2024