Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Menter Twyll Genelaethol - Hysbysiad prosesu teg

Mae gofyn i Ddinas a Sir Abertawe yn ôl y gyfraith ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Gall rannu gwybodaeth a roddwyd iddo gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) yn archwilio cyfrifon yr awdurdod hwn. Mae ef hefyd yn gyfrifol am gyflawni'r ymarferion cydweddu data.

Mae cydweddu data'n cynnwys cymharu cofnodion data a gedwir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadur eraill a gedwir gan yr un corff neu gorff gwahanol i weld i ba raddau maen nhw'n cyd-fynd. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer. Mae cydweddu data cyfrifiadurol yn galluogi nodi hawliadau a thaliadau twyllodrus posib. Lle ceir cydweddiad, efallai y bydd yn nodi bod anghysondeb sy'n gofyn am ragor o ymchwilio. Ni ellir rhagdybio o ran a oes twyll, gwall neu esboniad arall nes y cynhelir ymchwiliad.

Ar hyn o bryd, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i ni gymryd rhan mewn ymarfer cydweddu data i gynorthwyo wrth atal a chanfod twyll. Mae'n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol i'w gydweddu ar gyfer pob ymarfer a nodir y rhain yn arweiniad y Comisiwn Archwilio, y gellir dod o hyd iddynt yn www.audit.wales/cy/ein-gwaith/menter-twyll-genedlaethol (Yn agor ffenestr newydd).

Defnyddir data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer cydweddu data gyda chaniatâd statudol o dan ei bwerau yn Rhan 3 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw'n gofyn am ganiatâd yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Mae cydweddu data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn destun Côd Ymarfer. Gellir gweld hyn yn Cod Ymarfer ar Baru Data Archwilydd Cyffredinol Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

I gael mwy o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau pam y mae'n cydweddu gwybodaeth benodol, ewch i www.audit.wales/cy/ein-gwaith/menter-twyll-genedlaethol (Yn agor ffenestr newydd). I gael mwy o wybodaeth am gydweddu data yn yr awdurdod hwn, cysylltwch â Paul Beynon (Y Prif Archwilydd) drwy ffonio 01792 636463 neu drwy e-bostio paul.beynon2@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith