Dathlwyr yn cael eu hannog i fod yn ddiogel ger dŵr y gaeaf hwn
Mae Cyngor Abertawe wedi gosod arwyddion ger nifer o ddyfrffyrdd, pyllau a llynnoedd yn annog pobl i beidio â mynd ar yr iâ.
Aeth arwyddion i fyny'r wythnos diwethaf ar ddechrau'r cyfnod hir o dywydd oer a chyn y drychineb ofnadwy yn Solihull. Ond gan fod y tywydd oer yn debygol o barhau wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae tîm diogelwch dŵr Cyngor Abertawe yn ailbwysleisio'i rybudd fel rhan o'i ymgyrch diogelwch y gaeaf flynyddol.
Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y cyngor yn ymuno ag ymgyrch 'Peidiwch ag Yfed a Boddi' Cymdeithas Achub Bywyd Frenhinol (RLSS) y DU bob blwyddyn yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.
Ond ychwanegodd, "Eleni, rydym hefyd yn annog pobl i gadw draw o lynnoedd, pyllau a mannau eraill a fydd efallai wedi rhewi oherwydd y tywydd oer estynedig.
"Roeddem wedi gosod ein harwyddion cyn y digwyddiad trychinebus yn Solihull ar y penwythnos pan gollodd y bechgyn ifanc hynny eu bywydau. Ond ni allwn bwysleisio digon fod iâ, er ei fod yn edrych yn groesawgar ac yn atyniadol, yn denau a does dim sicrwydd y bydd yn cynnal eich pwysau.
"Y peth gorau i wneud yw cadw draw ohono."
Mae ymgyrch barhaus 'Peidiwch ag Yfed a Boddi' yr RLSS wedi'i hanelu at ddathlwyr yr ŵyl a'u ffrindiau sy'n meddwl am gerdded adref ar ôl noson mas.
Mae gan oddeutu 20% o'r oedolion sydd wedi boddi ar ddamwain yn y DU alcohol yn eu gwaed a dangosodd ymchwil gan yr RLSS fod oedolion 18 i 21 oed yn arbennig o agored i'r perygl o foddi ar ddamwain ar ôl yfed gormod.
Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Rydym am i breswylwyr ac ymwelwyr fwynhau eu nosweithiau mas dros y Nadolig , ond rydym am iddynt wneud hynny'n ddiogel drwy gadw draw o ddŵr wrth iddynt gerdded adref. Ni ddylai pobl sydd wedi bod allan yn yfed fynd i mewn i ddŵr oherwydd bod alcohol yn effeithio'n ddifrifol ar eich gallu i ddod o drybini.
"Rydym hefyd yn galw ar bobl i gadw llygad ar eu ffrindiau i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Cymerwch gip ar www.rlss.org.uk i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch hefyd fynd i www.facebook.com/RLSSUK