Incwm cartref: amcangyfrifon ar sail model
Amcangyfrifon ardaloedd bach o incwm blynyddol cyfartalog aelwydydd.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon yn seiliedig ar fodel o incwm blynyddol cyfartalog (cymedrig) aelwyd mewn Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG). Caiff yr amcangyfrifon eu casglu gan ddefnyddio data'r Arolwg o Adnoddau Teulu ynghyd â data'r Cyfrifiad a data gweinyddol.
Mae'r incwm cyfartalog (cymedrig) yn gyfwerth ag adio pob incwm aelwyd at ei gilydd a'i rannu fesul nifer yr aelwydydd. Caiff amcangyfrifon yn seiliedig ar fodel eu cynhyrchu ar gyfer y pedwar mesur incwm canlynol:
- Cyfanswm incwm blynyddol aelwydydd
- Incwm blynyddol net aelwydydd
- Incwm blynyddol net aelwydydd cyn costau tai (incwm cyfwerthedd*)
- Incwm blynyddol net aelwydydd ar ôl costau tai (incwm cyfwerthedd).
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020 ac fe'u cyhoeddwyd gan y SYG ym mis Hydref 2023. Mae ffeil ddata ar gyfer ACEHI Abertawe ar gael, ynghyd â dolen i'r cyhoeddiad SYG (Yn agor ffenestr newydd) diweddaraf.
Amcangyfrifon Incwm Aelwydydd ACEHG 2019-20 (Excel doc, 66 KB)
Mae amcangyfrifon 2019-20 yn dangos gwahaniaeth o £17,000 rhwng y ffigurau ACEHI uchaf ac isaf yn Abertawe ar gyfer incwm gwario cymedr aelwydydd (net) (incwm cyfwerthedig, cyn costau tai). Mae'r ffigurau hyn yn amrywio o £20,900 ('Abertawe 019' - ACEHI Townhill) i £37,900 ('Abertawe 031' - ACEHI y Mwmbwls a Newton).
Cyn y cyhoeddiad diweddaraf, cyhoeddwyd yr amcangyfrifon ACEHI ar gyfer 2017-18 gan y SYG ym mis Mawrth 2020, a'r amcangyfrifon ar gyfer 2015-16 ym mis Ebrill 2018. Cyhoeddwyd amcangyfrifon ACEHI cynharach, ar gyfer 2011-12 a 2013-14 hefyd.
Ardal ddaearyddol ystadegol yw ACEHG a grëir trwy ddefnyddio data cyfrifiad gan grwpiau o ACEHI (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is). Mae ganddynt faint lleiaf o 5,000 o bobl a 2,000 o aelwydydd. Mae rhagor o wybodaeth am ardaloedd daearyddol ystadegol yn Abertawe ar gael yma. Fodd bynnag, darperir amcangyfrifon 2019-20 ar gyfer yr ACEHI a oedd yn bodoli cyn Cyfrifiad 2021.
Am wybodaeth bellach am amcangyfrifon ardaloedd bach o incwm aelwydydd, cysylltwch â ni.
* Incwm cyfwerthedd yw lle mae gwerthoedd incwm aelwydydd wedi cael eu haddasu i ystyried nifer a math y bobl yn yr aelwyd.