IIRONMAN 70.3 Abertawe'n cael cydnabyddiaeth fyd-eang yng Ngwobrau Dewis Athletwyr IRONMAN 70.3 2024
Mae IRONMAN 70.3 Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang drwy gyrraedd yr 11eg safle ymhlith 106 o gyrsiau 70.3 yng Ngwobrau Dewis Athletwyr IRONMAN 70.3 2024 yn Tampa, Fflorida.

Yn ogystal, daeth yn nawfed yng nghategori'r ras 70.3 a argymhellwyd fwyaf ac yn drydydd yng nghategori'r cwrs 70.3 gorau allan o 33 o rasys yn ardal Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, gan ategu enw rhagorol ac ymrwymiad i ragoriaeth y ras yn Abertawe.
Cynhelir rhan fwyaf atyniadol y ras ar hyd promenâd Abertawe, gan gynnig golygfeydd trawiadol o'r arfordir i gyfranogwyr wrth iddynt gwblhau cymal olaf y digwyddiad tri chymal hwn.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae'n gyflawniad gwych i IRONMAN 70.3 Abertawe gael cymeradwyaeth mor uchel yn fyd-eang. Rydym yn falch o'n ras, sy'n cynnig cwrs nofio, beicio a rhedeg atyniadol, gan arddangos harddwch ein hardal leol. Mae'r ymchwil hefyd yn nodi bod y digwyddiad yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol, wrth i fwy na £2.3m gael ei wario yn yr ardal oherwydd y ras yn 2024."
Meddai Rebecca Sutherland, Cyfarwyddwr Ras IRONMAN 70.3 Abertawe: "Mae'n wych bod rasys rhagorol Cymru mor boblogaidd ymhlith athletwyr ledled y byd wrth eu cymharu â lleoliadau eraill. Mae'n deyrnged i harddwch y wlad a'r gefnogaeth anhygoel rydym yn ei chael flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn gwybod y dylech gael blas ar ras yng Nghymru o leiaf unwaith yn eich bywyd, ond mae'n wych clywed bod yr athletwyr yn cytuno!"
Mae ras IRONMAN 70.3 Abertawe yn ei 4edd flwyddyn bellach ac mae pob lle eisoes wedi'i werthu ar gyfer 2025 wrth i'w bri barhau i gynyddu. Eleni, mae'r ras wedi cael ei chynnwys yng nghyfres broffesiynol fyd-eang IRONMAN, lle mae triathletwyr yn cystadlu i ennill pwyntiau a'r bencampwriaeth, yn ogystal â chyfran o'r gwobrau ariannol gwerth £1.35m.
Ychwanegodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, "Mae cael ein dewis i fod yn un o wyth ras 70.3 yn unig yn y byd i fod yn rhan o'r gyfres broffesiynol yn 2025 yn anrhydedd anferth, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cyfranogwyr o bedwar ban byd i Abertawe."
Cynhelir IRONMAN 70.3 Abertawe ar 13 Gorffennaf 2025. Bydd y ras yn dechrau yn Noc Tywysog Cymru gyda'r cymal nofio (1.9km), wedi'i ddilyn gan y cymal beicio (90km) drwy'r Mwmbwls a Gŵyr, cyn gorffen wrth i'r athletwyr redeg 21.1km ar hyd y promenâd i'r llinell derfyn ym Mharc yr Amgueddfa o flaen Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.croesobaeabertawe.com/chwaraeon-haf/ironman/ a www.ironman.com/races/im703-swansea